Gwasanaethau Celfyddydau
Cyngor Sir Ddinbich
Yr hen Garchar,
46 Stryd Clwyd,
Rhuthun,
LL15 1HP
Teleffon:
01824 708205
Ffacs:
01824 708202
Mae'r Gwasanaeth yn gobeithio hybu ymwybyddiaeth o'r celfyddydau yn y gymuned ac ysgogi unigolion a mudiadau i gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol.
Gwneir hyn drwy raglen gynhwysfawr o arddangosfeydd, gweithdai, perfformiadau a dosbarthiadau, yn arbennig ym maes y celfyddydau gweledol ond hefyd yn myd perfformiadau theatrig ar raddf fechan, dawns a llenyddiaeth. Mae'r rhaglen a gynigir yn cynnwys digwyddiadau o bwysigrwydd cenedlaethol ac ar raddfa mwy lleol. Trefnir arddangosfeydd yn y gymuned yn ogystal â digwyddiadau mewn llyfrgelloedd a mannau cyffelyb oddi mewn y Cyngor y Sir.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu cyngor i ymarferwyr artistig a grwpiau cymunedol ac yn ymgymryd â gwaith ymgynghori a chontract ar ran awdurdodau a sefydliadau eraill ym maes gweithgarwch diwylliannol.


