| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Archifdy Sir Ddinbych
46 Stryd Clwyd
RHUTHUN
Sir Ddinbych
LL15 1HP
Teleffon:
01824 708250
Ffacs:
01824 708258
Ebost
Archifdy Sir Ddinbych
Archifdy Sir Ddinbych arwyddlun

Newyddion:

Un o ysgolion Sir Ddinbych yn ennill gwobr am ei phrosiect hanes

Daeth Ysgol Heulfre, Dinbych yn ail mewn cystadleuaeth genedlaethol y Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig am ei phrosiect ar hen Neuadd y Sir, Dinbych.  Ymwelodd y disgyblion ag Archifdy Sir Ddinbych i ymchwilio’r adeilad.   Am fwy o wybodaeth dilynnwch y cyswllt ‘ Newyddion yr Archifdy’.

Mae Gwasanaeth Archifdy Sir Ddinbych yn cynnig cyfle i chi gael golwg ar gyfoeth o ddogfennau a chofnodion gogledd ddwyrain Cymru yn Archifdy Rhuthun.  Mae'r archifau, sy'n ganolbwynt ein treftadaeth gofnodedig, yn cael eu casglu, eu cadw a'u cyrchu gan staff cymwynasgar a gwybodus.

Ymunwch â'r miloedd sy'n ymweld â'r Archifdy bob blwyddyn i olrhain eu hachau, hanes eu cartrefi, i ganfod rhagor am eu tref, pentref neu stryd yn y gorffennol, neu ddefnyddio'r miloedd lawer o gofnodion at ddibenion swyddogol neu gyfreithiol.

Yn Archifdy'r Sir yn Rhuthun rydym ni yn:

  • eich cynorthwyo i gael gwybodaeth yn uniongyrchol o'r dogfennau yn ein gofal, sy'n dyddio o'r ddeuddegfed ganrif i'r presennol
  • cyflawni gwaith ymchwil ar eich rhan am ffi, os y  dymunwch
  • casglu cofnodion yn ymwneud â Sir Ddinbych gan awdurdodau lleol, plwyfi, capeli, teuluoedd, unigolion, busnesau a sefydliadau o bob math er defnydd a budd cenedlaethau o ymchwilwyr y dyfodol
  • casglu a chopïo cofnodion ffotograffig
  • diogelu'r dreftadaeth hon drwy gadwraeth ofalus yr archifau a'u storio mewn ystafelloedd diogel pwrpasol
  • cynorthwyo ein defnyddwyr i chwilio drwy'r cofnodion (fel papurau newydd, ffurflenni cyfrifriad a chofestri plwyf) drwy gyfrwng microffilm neu gyfrifiaduron
  • paratoi arddangosfeydd am archifau
  • cyflwyno sgyrsiau/cyflwyniadau i gymdeithasau a sefydliadau

Nod Archifdy Sir Ddinbych yw cadw cofnod ddogfennol mor gyflawn â phosibl o hanes y Sir. Gall y cyhoedd gynorthwyo drwy hysbysu Archifydd y Sir am unrhyw ddeunydd o ddiddordeb hanesyddol, yn enwedig unrhyw ddeunydd a allai fod mewn perygl.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0