- Cymru Am Barod Fforwm Gogledd Cymru Gydnerth
- Cymru Gydnerth
- Cyngor i fusnesau ynghylch diogelwch tān
- Cynlluniau Argyfwng
- Cynllunio Ymateb Brys
- Gwenwynig a phelydriadau
- Gwybodaeth am Wrthderfysgaeth
- Lleihau Llosgi Bwriadol
- Materion Iechyd Cyfredol
- Rhifau ffon argyfwng Gwasanaethau'r Amgylchedd
- Sut i gynllunio ar gyfer Argyfwng Busnes
- Sut i ymateb i Argyfwng yn y Cartref neu Argyfwng
- Sut mae Sir Ddinbych yn ymateb i argyfwng
Cyd-uned Cynlluniau Argyfwng
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NG
Teleffon:
01352 702124
Ffacs:
01352 754005
Mae’r tudalennau’n rhoi gwybodaeth am swyddogaeth Tīm Cynlluniau Argyfwng Sir Ddinbych wrth baratoi ar gyfer argyfyngau posibl. Hefyd cewch wybodaeth am baratoi ar gyfer argyfwng personol neu argyfwng busnes.
Mae Sir y Fflint a Sir Ddinbych wedi arwyddo cyd-drefniant i ddarparu un gwasanaeth cynlluniau argyfwng ar gyfer y ddau awdurdod. Gelwir yr uned yn Gyd-uned Cynlluniau Argyfwng ac mae ei swyddfa yn yr Wyddgrug yn Sir y Fflint.
Yr Uned Cynlluniau Argyfwng sy’n gyfrifol am gydlynu ymateb y ddau awdurdod i unrhyw argyfwng sy’n effeithio ar eu cymunedau. Gall hynny olygu trychineb oherwydd y tywydd, cludiant, damwain ddiwydiannol, llygredd dŵr neu derfysgaeth. Gallai hynny olygu bod angen i’r awdurdodau, y cyfleustodau, grwpiau gwirfoddol a mudiadau eraill fod ar gael.
Gellir lleddfu effeithiau unrhyw argyfwng a chynorthwyo’r gymuned i ddychwelyd i normalrwydd trwy gynllunio ymateb o flaen llaw. Mae tudalennau gwe Cynlluniau Argyfwng Sir Ddinbych yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am yr hyn y gallwch ei wneud i amddiffyn eich hunan mewn damwain neu ddigwyddiad mawr ac mae’n rhestru’r pethau y dylech eu gwneud a phethau na ddylech eu gwneud wrth baratoi ar gyfer argyfwng heb darfu ar eich bywyd dyddiol.


