| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Gwasanaeth Cyllid a Pherfformiad yr Amgylchedd
Cyngor Sir Ddinbich
Caledfryn
Ffordd Y Ffair
Dinbych
LL16 3RJ
Teleffon:
01824 706800
Ffacs:
01824 706728
Ebost
Cyllid a Pherfformiad yr Amgylchedd
Environment Finance & Performance Service image W

Mae Cyllid a Pherfformiad yn rhan o Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd ac yn darparu amrediad o swyddogaethau i gynorthwyo gwasanaethau eraill yn y Gyfarwyddiaeth ac ar draws yr Awdurdod  - gweler y dolennau ar ochr chwith y dudalen yma.

Beth ydym yn ei wneud?

Cynllunio Argyfwng.
Gwneir y gwaith o gynllunio argyfwng ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir Y Fflint o'u swyddfa yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. Mae'r tîm yn gyfrifol am drefnu ymateb Sir Ddinbych i unrhyw argyfwng sy'n effeithio ar ein cymunedau. Gall hyn olygu symud staff y sir ac adnoddau yn ogystal â threfnu cymorth gan y Gwasanaethau Argyfwng, Awdurdodau cyfagos, cyfleusterau, grwpiau gwirfoddol a mudiadau eraill. Bydd ymateb trefnus yn lleihau effaith argyfwng ac yn cynorthwyo’r gymuned ddychwelyd yn ôl fel o'r blaen.

Ariannu Allanol
Mae'r tîm Ariannu Allanol yn paratoi ac yn monitro ceisiadau a phrosiecatau Amcan 1 a phrosiect Interreg ar draws pob Cyfarwyddiaeth. Mae'r tîm yn gyfrifol hefyd am lunio ceisiadau i'r Gronfa Adfywio Leol a hefyd monitro Cynllun Cyfalaf Sir Ddinbych. Mae'r tîm yn gweithio'n glos hefo'r tîm Cyllid a'r Gwasanaethau Datblygu gan weithio i sicrhau bod yr Awdurdod yn barod am bob lefel o archwiliad. Mae'r tîm ar hyn o bryd yn aros manylion y Rhaglen Cydgyfeirio newydd (Convergence Programme) (2007-2013) gan chwilio am gyfle i gydweithio hefo cyrff cyhoeddus eraill ar weithredu'r prosesau angenrheidiol.
Am ragor o wybodaeth  am Ariannu Allanol gweler y ddolen ar y llaw chwith.

Cyllid
Mae'r tîm prosesau cyllid yn rhoi cymorth i'r Gyfarwyddiaeth wrth weinyddu amrywiaeth o weithgareddau cyllidol. Mae'r tîm yn cynorthwyo cadw system stoc, cadw cofnodion gwaith ar gerbydau, a system rheolaeth arlwyo ysgolion. Y brif swydd yw paratoi a phrosesu anfonebau, archebion a thalu costau teithio staff o fewn yr amser a'r rheoliadau priodol. Mae'r Cyngor Sir ar fin gweithredu system bwrcasu electronig newydd ac mae'r tîm yn gyfrifol am gyflwyno systemau newydd i gynnal y cynllun hwn.  

Gwybodaeth a Mapio
Mae'r tîm Gwybodaeth a Mapio yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth ystadegol, gwybodaeth cyfrifiad, gweinyddu Cytundeb Gwasanaethau Mapio, cynnal y Gazetteer Tir ac Eiddo, a chynorthwyo hefo dyluniad a chyhoeddi llenyddiaeth a ffurflenni. Mae'r tîm yn cynnwys cyfrifoldeb am greu a gweithredu strategaeth y Gyfarwyddiaeth o geisio cael agwedd eang ac unedig at y defnydd o GIS.

Rheolaeth Perfformiad a Gwybodaeth
Mae'r tîm Gwybodaeth Perfformiad a rheolaeth yn gyfrifol am drefnu a chynorthwyo i weithredu systemau Perfformiad a Gwybodaeth gan gynnwys proses cynllunio busnes. Bydd y tîm hefyd yn chwarae rôl o fewn yr adran TGC yn gweithredu systemau a chaledwedd newydd. Mae darparu derbynfa yn swyddfa Caledfryn yn gyfrifoldeb ychwanegol yr adran hon.

Personnel
Mae'r tim Personnel yn gweithio'n glos hefo swyddogion personnel canolog i ddarparu cyngor a chymorth ym mhob maes o waith personnel gan gynnwys recriwtio, polisi, Buddsoddwyr Mewn Pobl, disgyblaeth a chwynion, a pharatoi taflenni amser.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych