| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd
Cyngor Sir Ddinbich
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN
Teleffon:
01824 706100
Ebost
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd
Parc Drifft Y Rhyl

Croeso i Dudalen Gartref Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd
Iwan Prys Jones - Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Amgylchedd

Mae Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd yn cynnwys nifer o wasanaethau, gan gynnwys Cludiant ac Isadeiledd, Gwasanaethau'r Amgylchedd, Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Gwasanaethau Datblygu a Thîm Cefnogi, Cyllid a Pherfformiad.  Thema gyffredin yr holl wasanaethau hyn yw eu bod, yn gyffredinol, yn darparu mwyafrif gwasanaethau rheng flaen, sy'n cael effaith ar faterion amgylcheddol, adfywio a chludiant ledled Sir Ddinbych.  Bydd bron pob trigolyn neu ymwelydd â Sir Ddinbych yn manteisio ar y gwasanaethau a ddarperir gan y  Gyfarwyddiaeth, a bydd eu hargraff hwy o sut mae'r Sir yn edrych a theimlo yn dod o'r ffordd rydym ni'n cyflawni ein gwaith.
Mae'r Gyfarwyddiaeth yn cyflogi oddeutu 1,000 o bobl yn y rhan fwyaf o leoliadau swyddfa’r Cyngor, a nifer o ddepos gweithredu.  Mae'r Gyfarwyddiaeth hefyd yn darparu ystod o wasanaethau ar gyfer ysgolion a chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys gwasanaethau arlwyo, gwasanaethau glanhau, cynnal a chadw fflyd cerbydau a goleuadau stryd.  Mae'r Cyngor hefyd yn darparu gwasanaethau parcio a chyfleusterau siop arwyddion, ar gyfer nifer o awdurdodau lleol eraill ledled Gogledd Cymru.
Mae blaenoriaethau allweddol y Gyfarwyddiaeth yn cynnwys sicrhau bod y ddelwedd a gyflwynir i drigolion Sir Ddinbych ac ymwelwyr â'r Sir yn cael ei chynnal i'r safon uchaf bosibl. Mae hyn yn cynnwys gwaith gorfodi rhagweithiol, i gynnal safonau derbyniol ym mhob un o drefi, pentrefi a chymunedau Sir Ddinbych. Mae'r Gyfarwyddiaeth hefyd yn cyflwyno gwaith adfywio lefel uchel ar ran y Cyngor Sir, mewn llawer o gymunedau. Mae ffocws arwyddocaol gweithgareddau adfywio i'w weld o amgylch strategaeth ddatblygu gynhwysfawr Y Rhyl yn Symud Ymlaen.                                                           

Cyllid a Pherfformiad

Mae'r Gwasanaeth yn darparu ystod o swyddogaethau, i gynorthwyo gwasanaethau eraill o fewn y Gyfarwyddiaeth a'r Awdurdod. Mae'n cynnwys:-
• Cynllunio at Argyfwng
• Cyllid Allanol
• Cyllid
• Gwybodaeth a Mapio
• Gwybodaeth Perfformiad a Rheoli
• Personél

Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd

Mae gan y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd gyfrifoldeb am ystod eang o ddyletswyddau statudol ac anstatudol, gan gynnwys swyddogaethau cynllunio a rheoli adeiladu, safonau masnach, iechyd yr amgylchedd (diogelwch bwyd, iechyd a diogelwch, rheoli llygredd, rheoli pla), trwyddedu, lles anifeiliaid, gorfodi ac adnewyddu tai sector preifat / swyddogaethau grantiau adfywio.

Gwasanaethau Datblygu

Mae'r adran yn ymwneud ag ystod eang o wasanaethau, o gefnogi busnes i gynnal a chadw a dylunio adeiladau.  Mae'r Gwasanaethau Datblygu hefyd yn gyfrifol am sicrhau cyllid Ewropeaidd ac yn rheoli portffolio'r Cyngor.
Mae rhestr gyfan adrannau o fewn y Gwasanaethau Datblygu wedi ei nodi isod.
• Gwasanaethau Adeiladu
• Cadwraeth
• Cefnogi Busnes Sir Ddinbych
• Dylunio a Datblygu Sir Ddinbych
• Amcan Un ac Adfywio
• Gwasanaethau Eiddo

Gwasanaethau'r Amgylchedd

Mae Gwasanaethau'r Amgylchedd yn darparu mwyafrif gwasanaethau llaw, rheng flaen y Cyngor.  Mae ei wasanaethau Parth Cyhoeddus yn chwarae rôl hanfodol o ran gwneud Sir Ddinbych yn lle braf i fyw ynddo ac i ymweld ag o.  Mae'r rhain yn cynnwys: glanhau strydoedd, cynnal a chadw tiroedd, mynwentydd, toiledau cyhoeddus, goleuadau stryd, atgyweirio priffyrdd a chasglu gwastraff (tŷ a masnach), ailgylchu, safleoedd mwynderau dinesig a gorfodi.
Mae'r gwasanaethau eraill a ddarperir gan Wasanaethau'r Amgylchedd yn cynnwys: cynnal a chadw ffyrdd yn y gaeaf, gwaith tai cyngor, arlwyaeth ysgolion a glanhau adeiladau cyhoeddus.  At hyn, mae'r Siop Arwyddion yn darparu uned gwneuthur a gosod arwyddion ar ran y Cyngor.

Cludiant ac Isadeiledd

Mae'r Adran Cludiant ac Isadeiledd yn gyfrifol am Gynllunio a Rheoli Rhwydweithiau Ffyrdd a Chludiant y Sir.
Mae Isadeiledd yn gofalu am reoli'r rhwydwaith ffyrdd ac mae ein peirianwyr a’r staff technegol yn gofalu am wasanaethau arbenigol sy'n ymwneud â'r canlynol:
• Pontydd a Strwythurau
• Rheoli Datblygiad
• Gwaith Stryd
• Rheoli Traffig
Mae Cludiant yn rheoli fflyd cerbydau'r sir ac mae hefyd yn gyfrifol am gynllunio a goruchwylio'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus lleol, gan chwarae rhan bwysig o ran rheoli'r amserlen a'r llwybrau a ddefnyddir gan y gwasanaeth bws.  Mae hyn hefyd yn cynnwys peth rheolaeth o gludiant ysgol, yn cludo disgyblion i ac o'r ysgol.
Hawliau Tramwy Cyhoeddus - lle 'rydym yn cynnal a rheoli rhwydwaith llwybrau cefn gwlad, gwledig yn bennaf, gan gynnwys llwybrau cerdded a llwybrau marchog, ynghyd â nifer fechan o lwybrau mewn ardaloedd trefol.
Diogelwch Ffordd - sy'n gofalu am ddiogelwch holl ddefnyddwyr ffordd gan gynnwys patrolau croesi ysgolion a dysgu arferion diogel defnyddio ffyrdd i blant ysgol, a gyrwyr car newydd a phrofiadol.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0