| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Gwasanaeth Treftadaeth
Cyngor Sir Ddinbich
Carchar Rhuthun
46 Heol Clwyd
Rhuthun
LL15 1HP
Teleffon:
01824708281
Ffacs:
01824708258
Ebost
Gwasanaeth Treftadaeth
Gwasanaeth Treftadaeth

Gelwir Sir Ddinbych yn “Sir o Ddiwylliant”. Mae’r Sir yn enwog fel pwerdy’r Dadeni Dysg yng Nghymru, ac yma gwelir cyfoeth o dai hanesyddol ac atyniadau treftadaeth mwy nag sy’n arferol i sir o’i maint. Rhedir y lleoliadau hyn, rhai o bwys cenedlaethol gan Wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych. Yn y Sir mae casgliad amrywiol: tai o’r oesoedd canol, hen garchar Fictoraidd, bwthyn o gyfnod Regency ac amgueddfa bywyd glan y môr. Mae gan bob un ei stori unigryw am y bobl fu’n byw uno. Ewch i’w gweld i ddysgu a mwynhau ac i gael ysbrydoliaeth. Ein nod yw dangos y gorffennol a chysylltu hefo’r presennol. Yn y llefydd hyn gallwch chi a’ch teulu ddarganfod eich treftadaeth a darganfod pwy ydych chi.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y linciau I’r chwith.

Mae'r Gwasanaeth Treftadaeth yn gyfrifol am reolaeth a datblygiad darpariaeth treftadaeth y Sir a storfaoedd amgueddfaol. Mae bob un leoliad â chyfoeth o ddeunydd, yn ffynhonell addysgiadol delfrydol gyda llawer o berthnasedd arbennig i'r Cwricwlwm Cenedeaethol. Mae'r gwasanaeth hefyd yn trefnu arddangosfeydd ac yn gweithio'n agos gyda sefydliadau hanes lleol a threftadaeth a grwpiau ysgol.

Mae Swyddfeydd y Gwasanaeth Treftdaeth i'w cael yn y cyn garchar, yr adeilad rhestredig Gradd II*, Carchar Rhuthun, 46 Heol Clwyd, Rhuthun.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych