Twristiaeth
Cyngor Sir Ddinbich
Yr Hen Garchar
46 Stryd Clwyd
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1HP
Teleffon:
01824 708242
Ffacs:
01824 708202
Hyrwyddo Cyffredinol
Yn dilyn ymchwil yn 1994/5 gan Fwrdd Croeso Cymru i benderfynu anghenion cwsmeriaid, yn hytrach na defnyddio ffiniau gweinyddol i ddiffinio ardaloedd marchnata, rhannwyd Cymru’n 12 ardal farchnata swyddogol. Mae sir Ddinbych wedi’i rhannu rhwng 2 o’r ardaloedd hyn:
Mae rhimyn yr arfordir (Y Rhyl, Prestatyn a’r gefnwlad gyfagos) yn Ardal 2 – Cyrchfannau Arfordirol Gogledd Cymru.
Mae Sir Ddinbych Wledig (Dyffryn Clwyd, Rhuthun, Llanelwy, Dinbych, Corwen, Llangollen a Dyffryn y Ddyfrdwy) yn Ardal 3 - Gororau Gogledd Cymru, ynghyd â siroedd Wrecsam a Sir y Fflint.
Mae Sir Ddinbych wledig a chyrchfannau glan môr traddodiadol Y Rhyl a Phrestatyn yn cael eu marchnata mewn ffyrdd penodol wedi’u haddasu at anghenion y farchnad.
Rydym yn cydweithredu ag awdurdodau lleol eraill, y grwp twristiaeth rhanbarthol, asiantaethau eraill a Bwrdd Croeso Cymru mewn nifer o weithgareddau marchnata, yn cynnwys rhaglenni hysbysebu cyd-drefnedig gan y cyfryngau, presenoldeb mewn arddangosfeydd, ymweliadau cyfarwyddo’r wasg ac adeiladu gwefan er mwyn sicrhau proffil mor effeithiol â phosibl i ddiwydiant twristiaeth Sir Ddinbych
Mae Sir Ddinbych wledig a chyrchfannau glan môr traddodiadol Y Rhyl a Phrestatyn yn cael eu marchnata mewn ffyrdd penodol wedi’u haddasu at anghenion y farchnad.
Rydym yn cydweithredu ag awdurdodau lleol eraill, y grwp twristiaeth rhanbarthol, asiantaethau eraill a Bwrdd Croeso Cymru mewn nifer o weithgareddau marchnata, yn cynnwys rhaglenni hysbysebu cyd-drefnedig gan y cyfryngau, presenoldeb mewn arddangosfeydd, ymweliadau cyfarwyddo’r wasg ac adeiladu gwefan er mwyn sicrhau proffil mor effeithiol â phosibl i ddiwydiant twristiaeth Sir Ddinbych. I gael rhagor o wybodaeth am Dwristiaeth yn Sir Ddinbych defnyddiwch cysylltiadau isod os gwelwch yn dda:-


Rhoi adborth ar y tudalen hon