Beth yw oriau agor Archifdy'r Sir a ble rwyf i barcio?
Cliciwch ar y cysylltiad 'Oriau Agor' ar gyfer oriau agor arferol. Mae parcio ar y safle ar gael ar gyfer gyrrwyr anabl yn unig. Mae parcio talu ac arddangos ar gael ychydig funudau o gerdded i ffwrdd ym maes parcio Cae Ddol neu faes parcio Ffordd y Parc.
Oes angen i mi wneud trefniadau ymlaen llaw i ymweld ag Archifdy'r Sir?
Byddai'n ddoeth trefnu ychydig ddyddiau ymlaen llaw i arbed siom. Byddwn yn derbyn ymwelwyr heb drefniant ymlaen llaw os bydd lle a chyfleusterau ar gael. I fwcio, galwch y swyddfa ar 01824 708250 neu e-bostiwch trwy ddefnyddio'r cysylltiad ar y chwith.
Oes angen i mi ddod ag unrhywbeth arbennig gyda fi ar fy ymweliad â'r Archifdy?
Os ydych yn aelod, dewch â'ch tocyn Rhwydwaith Ymchwil Archifai Sirol gyda chi gyda phensil (ni chaniateir ysgrifbin). Os nad ydych yn aelod, dewch â phrawf adnabod sydd yn cynnwys cyfeiriad a llofnod. Dilynwch y cysylltiad 'Tocyn Darllen CARN' am fwy a fanylion.
A ydych yn cyflenwi gwasasneth ymchwil os nad wyf yn gallu ymweld â'r Archifdy?
Ydym, rydym yn cynnig gwasanaeth ymchwil proffesiynol i ddelio gydag ymholiadau post, e-bost a theliffon. Am fanylon am ffioedd ac am sut i gysylltu â'r gwasanaeth cliciwch yma os gwewlwch yn dda. Dilynwch y cysylltiad 'Gwasanaeth Ymchwil'?

Rhoi adborth ar y tudalen hon