Mae Archifdy Sir Ddinbych yn aelod o gynllun tocynnau darllenydd CARN (County Archives Research Network). Mae tocyn darllenydd CARN yn caniatáu i chi weld:
- Catalogau a mynegai
- Dogfennau gwreiddiol
- Mapiau Arolwg Ordnans
- Mapiau Degwm
- Gwybodaeth Cyfrifiad
- Cofrestri Plwyf
- Casgliadau ffotograffau
Os oes gennych docyn darllenydd CARN eisoes dewch ag ef gyda chi bob tro rydych yn ymweld â’r archifdy. I gael tocyn, dewch â thystiolaeth o bwy ydych chi, yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad presennol a’ch llofnod (e.e. trwydded yrru neu gerdyn banc a bil cwmni cyfleustodau) fel y gall staff roi eich tocyn am ddim i chi. Cofiwch nad yw pasbort y Deyrnas Unedig yn ddigon ar ei ben ei hun gan nad yw’n dangos eich cyfeiriad.
Rhaid i bawb â thocyn gadw at reolau’r ystafell ymchwil bob amser. Nod y rheolau hyn yw sicrhau eich bod yn mwynhau eich cyfnod yn yr archifdy a sicrhau bod y deunydd hanesyddol yn yr Archifdy yn cael ei gadw i genedlaethau’r dyfodol. Ceidw’r Archifdy yr hawl i atal neu wrthod rhoi tocyn darllenydd. Ceir rhestr lawn o reolau’r ystafell ymchwil yn nerbynfa’r Archifdy, ac yn yr ystafell ymchwil ei hun.

Rhoi adborth ar y tudalen hon