| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Yr Hen Garchar, 46 Stryd Clwyd, Rhuthun. LL15 1HP
Teleffon:
01824 708242
Ebost
Gwnewch O Arlein
Cymorth busnes Twristiaeth yn Sir Ddinbych
rhyl

Os ydech chi'n meddwl cychwyn neu yn rhedeg busnes yn perthnasol a twristiaeth yn barod yn Sir Ddinbych rydym wedi darparu pecyn o wybodaeth i chi am wahanol ddiwydiannau twristiaeth yng Nghymru, ac yn lleol i Sir Ddinbych.
I ddilyn mae gwybodaeth grantiau. I dderbyn pecyn hefo'r holl wybodaeth cysylltiedig- cysylltwch a ni ar yr e-bost uchod.
Cyflwyniad i Grantiau Cyngor Sir Ddinbych - (Defnyddio Cyllid Amcan 1)
‘Gwella eich lefel Treiddio i’r Farchnad’a‘Bod yn Entrepreneur mwy llwyddiannus’
Beth am wella rhagolygon eich busnes gyda Grant Cefnogi Busnes gan Gyngor Sir Ddinbych?
P’un ai oes gennych fusnes wedi hen ymsefydlu, neu eich bod yn meddwl am sefydlu
busnes newydd, mae gennym ystod eang o grantiau cefnogi busnes wedi eu dylunio i
gydweddu i amrywiaeth o ofynion ariannu a sefyllfaoedd dechrau busnes. Fodd
bynnag, cyn cyflwyno cais dylech ddarllen y manylion am y meini prawf ar dudalen
4, er mwyn cadarnhau fod eich sector busnes yn gymwys i gael cymorth grant.
Mae grant penodol a allai gyd-fynd ag anghenion eich busnes penodol chi.
· Grantiau Datblygu Busnes
· Grantiau Marchnata
Grantiau Marchnata
‘Marchnata eich busnes yw’r allwedd pwerus wrth greu busnes llwyddiannus’
Er mwyn llwyddo mae’n rhaid i chi farchnata eich cynhyrchion neu eich
gwasanaethau gyda strategaethau marchnata dyfeisgar sy’n ennyn sylw. Cynigir y
Grant Marchnata i fusnesau yn Sir Ddinbych i annog strategaethau marchnata
newydd neu wreiddiol a thalu cyfran o gostau hyn. Mae’n bwysig fod y mentrau hyn
yn canolbwyntio’n systemataidd ar farchanata eich cynhyrchion neu eich
gwasanaethau. Mae’n bwysig sylweddoli’r angen i gyflwyno’r gwybodaeth gyflawn,
yn hytrach na thybio fod cwsmeriaid yn gwybod am eich cynnyrch eisoes.
Os ydych chi’n awyddus i gynhyrchu llenyddiaeth farchnata newydd ac arloesol,
mynychu sioeau neu arddangosfeydd masnach, creu gwefan newydd neu roi
gwybodaeth am eich busnes ar y Rhyngrwyd, mae’r Grant Marchnata wedi’i ddylunio
i gynnig peth cymorth ariannol gyda’r costau.
Cynigir y grant i gynorthwyo cwmni i gyflawni menter farchnata lle na fu un o’r
blaen, neu i ychwanegu gwerth at strategaeth farchnata gyfredol. Bydd yn galluogi
busnes i gael mynediad i farchnadoedd newydd, drwy gyfrwng y We er enghraifft,
neu i gryfhau ei bresenoldeb a’r argraff mae’n ei wneud.
Pa brosiectau sy’n gymwys?
· Cynhyrchu fideo am y cwmni a ffotograffau o’r cynnyrch
· Dylunio gwefan a’r costau cysylltiedig
· Taflenni, ffolderi a llenyddiaeth farchnata newydd
· Costau Sioeau ac Arddangosfeydd Masnach (yn y DU)
Er ei bod yn gynhwysfawr, nid yw’r rhestr yma’n cynnwys yr holl bosibiliadau a
gellir cael rhagor o gyngor a chymorth gan yr Uned Adfywio Economaidd.
Gwariant nad yw’n gymwys
Ni ellir defnyddio’r grant ar gyfer yr eitemau a ganlyn:
· Pennawd llythyr, slipiau cyfarchion, anfonebau, cardiau busnes
· Hysbysebu cyffredinol – Papurau newydd, teledu neu radio
Faint o grant a gynigir?
Yn arferol mae’r grant werth 50% o gyfanswm y gost, hyd at uchafswm o £3,000
wedi ei seilio ar wariant o £6,000. Er mwyn bod yn gymwys rhaid i ymgeisydd fod
yn fusnes sy’n cyflogi llai na 25 o staff, a gallu dangos fod y fenter marchnata yn
newydd ac y bydd yn cynorthwyo i gynyddu’r trosiant a hybu twf y busnes.
Gwariant Isafswm
Y gwariant isafswm a dderbynnir o ran cais am Grant Marchnata yw £1,500.
Tystiolaeth Taliadau
Cyn y gellir talu’r grant bydd yn ofynnol i chi gyflwyno tystiolaeth (anfonebau â
derbynneb gan eich cyflenwyr yn arferol) yn dangos y talwyd yn llawn am bob elfen
o’ch prosiect.
Cydnabod Cyllid Ewropeaidd
Os yw’r grant yn rhan o gyllid Amcan 1 rhaid cydnabod hyn a rhaid dangos y logo
Ewropeaidd yn eglur ar yr holl ddeunyddiau marchnata (taflenni, ffolderi, pamffledi
ac ati).
Grantiau Datblygu Busnes
‘Er mwyn sicrhau Moderneiddio, Twf ac Ehangu’
Mae’r Grant Datblygu Busnes yn darparu cymorth ariannol i ddiwydiant preifat. Nod
y grant yw eich cynorthwyo i gynyddu eich busnes yn llwyddiannus drwy
brynu/datblygu/gwella adeiladau, yn ogystal â phrynu offer cyfalaf fel offer
gweithgynhyrchu, offer swyddfa neu systemau Dylunio/Gweithgynhyrchu â chymorth
Cyfrifiadur (CAD/CAM) newydd. Gall y sectorau gweithgynhyrchu a gwasanaethu
gyflwyno cais.
Cynyddu Cyflogaeth
Prif amcan y Grant Datblygu Busnes yw bod o fudd i gwmnïau lleol, a thrwy wneud
hynny, bod o fudd i’r farchnad gyflogaeth leol a hefyd darparu amwynderau a
gwelliannau amgylcheddol. Felly bydd yr asesiad yn ystyried lefelau cyflogaeth, yr
arwynebedd busnes a greir ac effeithiau lluosogi, yn ogystal â lefel y buddsoddiad
sector preifat a’r effaith cyffredinol y bydd hyn yn ei gael ar ragolygon y cwmni yn y
dyfodol.
Lefel y Grant
Lefel y cymorth grant fydd hyd at 50% gyda grant uchafswm o £5,000, wedi ei seilio
ar wariant o £10,000. Ar gyfer yr holl brosiectau cymwys dros £10,000, mae’r lefel
cymorth grant yn 25% yn arferol. Serch hynny, dylid nodi lle bo’r prosiect yn
gymwys ar gyfer Grant Buddsoddi’r Cynulliad, gall lefel y grant fod yn sylweddol
uwch, yn enwedig o ran prosiectau lle mae’r gwariant o dan £100,000.
Adolygiad Busnes
Cyn bwrw ymlaen i benderfynu ar eich cais am Grant Datblygu Busnes byddwn yn
eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorwr a fydd yn cyflawni Adolygiad Busnes
trylwyr. Nod yr adolygiadau hyn yw targedu’r mentrau bach a chanolig â’r gallu i
ehangu, nodi’r cryfderau, gwendidau a’r cyfleoedd a’r bygythiadau sy’n wynebu’r
busnes, ac yn sgil y dadansoddiad, eu cynorthwyo i gyrchu’r cyngor arbenigol sydd ei
angen arnynt i wella eu perfformiad.
Dyfynbrisiau
Disgwylir i ymgeisydd wneud pob ymdrech i gael o leiaf dri dyfynbris cystadleuol ar
gyfer unrhyw waith adeiladu arfaethedig, neu unrhyw offer i’w osod. Bydd
ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn taliad grant wedi’i seilio ar y gwerth y farchnad
fel a ystyrir yn briodol gan y Cyngor.
Cymeradwyo a Thalu’r Grant
Ni ellir dechrau ar unrhyw waith na phrynu unrhyw offer nes derbyn y ‘Llythyr
Cynnig’ a llofnodi a dychwelyd copi i Uned Cefnogi Busnes y Cyngor Sir. Bydd
talu’r grant yn amodol ar fod yr ymgeisydd wedi cydymffurfio â holl amodau a
thelerau’r grant, ac wedi cyflawni’r gwaith, a/neu wedi gosod yr offer cyfalaf - mewn
modd a gymeradwyir gan swyddogion y Cyngor Sir. Bydd yn ofynnol cael
tystiolaeth taliad gan gyflenwr/wyr nwyddau neu wasanaethau.
Gwariant Isafswm
Y gwariant isafswm a dderbynnir o ran Grant Datblygu Busnes yw £4,000.
Grant Menter Sir Ddinbych
‘Ydych chi’n sefydlu busnes newydd?’
‘Ydych chi’n dymuno bod yn hunangyflogedig?’
‘Oes gennych chi syniad entrepreneuraidd?’
Yna gall Grant Menter Sir Ddinbych fod yn rhan fechan ond pwysig o gyllido eich
costau sefydlu dechreuol.
Mae’r grant wedi ei anelu’n benodol at fusnesau newydd sbon, gyda diffyg cyfalaf
gweithiol neu gyfleusterau gorddrafft o bosibl. Pennwyd y grant ar £1,500 ac fe’i
teilir mewn tri rhandaliad o £500 (ar ôl i’r busnes ddechrau masnachu) – ar ôl tri mis,
chwe mis a naw mis. Mae mynychu ‘Cwrs Busnes’ Asiantaeth Antur Sir Ddinbych
yn rhan hanfodol o’r broses Grant Menter, yn ogystal â chytuno i dri galwad monitro
cyn talu pob rhandaliad.
Rhoir y grant o £1,500 ar sail disgresiwn y Cyngor a gall y derbynyddion
ddefnyddio’r grant at ddibenion cyfalaf neu refeniw fel a nodwyd yn eu cais a’u
cynllun busnes.
Dyluniwyd y grant i fel rhan o’r pecyn cymorth Cefnogi Busnesau yn Sir Dd inbych a
gynigir yn gyfredol, a chynghorir ymgeiswyr i ystyried yr holl ffynonellau cymorth
ariannu eraill.
Am ragor o wybodaeth am Grant Menter Sir Ddinbych, cysylltwch ag:
Asiantaeth Antur Sir Ddinbych, Clwydfro, Lôn Parcwr, Rhuthun, Sir Ddinbych,
LL15 1NJ, Rhif ffôn: 01824 705782
Prosiectau cymwys
Yn arferol mae’r math o brosiectau a nodir isod yn gymwys i dderbyn Grantiau
Cefnogi Busnes:
· Ymchwil a Datblygu
· Diwydiant Ysgafn
· Gweithgynhyrchu
· Gweithgareddau masnachol cyffredinol
· Diwydiannau Gwasanaethu (fel golchfeydd)
Noder: Lle gwneir cais am arian Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd, yn hytrach na
chefnogaeth oddi wrth Gyngor Sir Ddinbych, rhaid bodloni meini prawf penodol sy’n
golygu nad yw rhai sectorau penodol yn gymwys. Gellir cael rhestr o’r sectorau nad
ydynt yn gymwys drwy ofyn am gopi o’r rhestr.
GRANTIAU GAN ASIANTAETHAU
Cynigir nifer o ffynonellau grant gan wahanol asiantaethau i fusnesau yn y diwydiant twristiaeth.  Isod ceir manylion am rai ffynonellau cyllid potensial eraill.  Mae gan lawer ohonynt wahanol fentrau â meini prawf, lefelau grant ac amserlenni amrywiol.   
CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU
Corff a noddir gan y Cynulliad yw Cyngor Celfyddydau Cymru, ac yn dilyn ailstrwythuro yn ddiweddar cyflwynwyd nifer o newidiadau allweddol i’r Cyngor Celfyddydau.  Un o’r newidiadau pwysicaf yw ailddatblygu cynlluniau Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n cynnig cyfleoedd i’r celfyddydau yng Nghymru wneud cais am arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru. 
Ceir nifer o gynlluniau i hybu prosiectau sy’n gysylltiedig â’r celfyddydau, a dyrennir swm penodol o arian i bob cynllun yn flynyddol.  Daw’r arian o ddwy ffynhonnell: 
- Arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru 
- Cronfeydd y Loteri, yn deillio o werthu tocynnau Loteri ar draws y Deyrnas Unedig
Mae’r Cyngor Celfyddydau yn rhannu’r arian yma ar ran y Cynulliad a’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, yn ôl eu trefn.  Os hoffech ganfod a ydych chi’n gymwys i dderbyn cyllid dan un o’r cynlluniau hyn, cysylltwch â: 
Swyddfa Gogledd Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, 36 Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn, LL29 8LA.  Rhif ffôn: 01492 533440
CADW
Cenhadaeth Cadw yw amddiffyn, cadw a hyrwyddo gwerthfawrogiad o dreftadaeth adeiledig Cymru.  Y sefydliad hwn yw Cyfarwyddiaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, a grewyd yn 1984.  Mae Cadw’n gyfrifol am yr ystod lawn o gyfrifoldebau o ran cadwraeth, golwg a hyrwyddo treftadaeth adeiledig Cymru ar ran y Cynulliad. 
Mae Cadw yn diffinio treftadaeth adeiledig fel olion ffisegol gweithgareddau pobl yn nhirwedd Cymru.  Mae’r olion hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o safleoedd, henebion, adfeilion pensaernïol ac adeiladau hanesyddol.  Os hoffech ganfod a ydych chi’n gymwys i dderbyn cyllid, cysylltwch â: 
Cadw, Plas Carew, Uned 5/7 Cefn Coed, Parc Nantgarw, Nantgarw, Caerdydd,  CF15 7QQ
Rhif ffôn: 01443 336000  Gwefan: www.cadw.cymru.gov.uk
CADWYN CLWYD – ASIANTAETH DATBLYGU GWLEDIG
Asiantaeth Datblygu Gwledig yw Cadwyn Clwyd sy’n darparu cymorth ariannol a chefnogaeth i gymunedau a grwpiau yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych a Sir y Fflint, drwy gyfrwng rhaglenni a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig.  
Mae Cadwyn yn gweithio’n uniongyrchol efo cymunedau a grwpiau i feithrin arloesedd ac arallgyfeirio, er budd yr economi leol.  Gall Cadwyn Clwyd gefnogi prosiectau sy’n newydd neu’n arloesol, sy’n cael eu harwain gan bobl ar lawr gwlad ac sy’n gallu dangos y gallent fod yn gynaliadwy yn dilyn cymorth gan Cadwyn Clwyd.  Cysylltwch â:  
Cadwyn Clwyd, Llys Clwyd, Ystad Ddiwydiannol Lôn Parcwr, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1NJ.  Rhif ffôn: 01824 705802, E-bost: admin@cadwynclwyd.co.uk
CYNGOR CEFN GWLAD CYMRU 
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn gofalu am amgylchedd a thirwedd Cymru a’i dyfroedd arfordirol fel ffynonellau cyfoeth naturiol a diwydiannol, fel sylfaen ar gyfer gweithgaredd economaidd a chymdeithasol, ac fel lle ar gyfer cyfleoedd dysgu a hamdden.  Ein nod yw gwneud yr amgylchedd yn rhan werthfawr o fywyd pawb yng Nghymru. 
O dro i dro mae gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru adnoddau grant ar gael i gynorthwyo mudiadau i gyflawni ei waith yn ymarferol, gyda chymunedau a sefydliadau eraill.  Ffoniwch y rhif ffôn Ymholiadau Cyffredinol - 08451 306229 – i gael rhagor o wybodaeth am y grantiau sydd ar gael. 
Uned Grantiau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Maes y Ffynnon, Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd LL57 2DN.  Rhif ffôn: 08451 306229 – Ymholiadau Cyffredinol. 
ASIANTAETH ANTUR SIR DDINBYCH 
Mae’r Asiantaeth Antur yn cynnig gwasanaeth cyngor annibynnol, am ddim, i gynorthwyo busnesau newydd a busnesau presennol sy’n dymuno ehangu.  Gall y tîm gynnig cyrsiau hyfforddiant, cymorth i ddod o hyd i safle/uned addas, cyngor busnes, cymorth ariannol, a chymorth gyda Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.  Os hoffech gael cyngor, cysylltwch â: 
Brian Thomas, Lôn Parcwr, Rhuthun LL15 1NJ. Rhif ffôn: 01824 70 5782
CYSWLLT FFERMIO
Gwasanaeth wedi’i ddylunio i gynorthwyo teuluoedd ffermio yng Nghymru i ddatblygu dyfodol llwyddiannus i’w busnesau yw Cyswllt Ffermio.  Mae’r holl brif sefydliadau sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth wedi dod ynghyd i gynnig amrediad o wasanaethau cydlynus sy’n ei gwneud yn haws cael cymorth.  Nod gyffredinol Cyswllt Ffermio yw darparu sylfaen adnoddau a fydd yn darparu hyfforddiant, cyngor a gwybodaeth. 
Manylion cyswllt:
Rhif ffôn: 08456 000 813 – Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 01824 705802 – Ymholiadau Sir Ddinbych – David Williams
Y LOTERI GENEDLAETHOL
Mae’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn ceisio gwella ansawdd bywyd i bawb drwy gyfrwng gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon, i gefnogi mynd ar drywydd rhagoriaeth a hyrwyddo’r diwydiannau twristiaeth, creadigol a hamdden.  Y weledigaeth yw ehangu rhagoriaeth a gwella mynediad ymhob sector. 
Yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon sy’n gyfrifol am bolisi’r Llywodraeth ar y celfyddydau, chwaraeon, y Loteri Genedlaethol, twristiaeth, llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac orielau, darlledu, ffilm, y diwyddiant cerddoriaeth, rhyddid a rheoleiddio’r wasg, trwyddedu, gamblo a’r amgylchedd hanesyddol.  Mae mwy na 60 o gyrff cyhoeddus yn derbyn cyllid gan yr Adran hon i roi cymorth diwylliannol a chwaraeon uniongyrchol i’r cyhoedd.  Yr Adran hon oedd yn gyfrifol am sefydlu’r Loteri Genedlaethol yn 1994 a chodwyd dros £7 biliwn i achosion da yn ystod y pum mlynedd gyntaf.  
Mae pum prif sefydliad yng Nghymru sy’n dosbarthu arian o gronfeydd y Loteri Genedlaethol.  I ganfod a ydych chi’n gymwys i dderbyn arian o un neu fwy o’r ffynonellau hyn, cysylltwch â’r:
Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, 2-4 Stryd Cockspur, Llundain SW1Y 5DH
Rhif ffôn: 0207211 6200 neu: 0845 2750000
CYNGOR CHWARAEON CYMRU
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn gorff a noddir gan y Cynulliad, a hwn yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol.  Fe’i sefydlwyd dan Siarter Brenhinol yn 1972 a hwn yw prif gynghorydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar yr holl faterion yn ymwneud â chwaraeon.  Mae’r Cyngor Chwaraeon hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu cyfran o arian y Loteri i chwaraeon yng Nghymru. 
I ganfod a ydych chi’n gymwys i dderbyn arian drwy’r ffynhonnell yma, cysylltwch â:  
Swyddfa Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru, Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Chester Road West, Queensferry, Glannau Dyfrdwy, CH5 1SA. Rhif ffôn: 0845 045 0908 Ffacs: 02920 300629
GWEITHREDU DROS FUSNESAU GWLEDIG
Mae Gweithredu dros Fusnesau Gwledig, gyda chymorth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn sylweddoli bod busnesau unigol a grwpiau cymunedol yn Nyffryn Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn darparu gwasanaethau sy’n hanfodol i gynnal cymunedau gwledig. 
Mae Gweithredu dros Fusnesau Gwledig yn cefnogi manteision gweithio mewn partneriaeth yn yr ardaloedd hyn drwy ddatblygu Cynlluniau Gweithredu Busnes strategol sy’n rhoi sylfaen i isadeiledd menter gwledig.  Mae Gweithredu dros Fusnesau Gwledig hefyd yn arwain mentrau cymorth i fusnesau gwledig perthnasol gan yr Awdurdod Lleol. 
Jeremy Knibbs, Rheolwr Gweithredu dros Fusnesau Gwledig, Neuadd y Dref, Stryd Fawr, Llangollen, Sir Ddinbych, LL20 8PW
FFORWM HYFFORDDIANT CYMRU
Sefydlwyd Fforwm Hyfforddiant Twristiaeth Cymru i ddarparu arweiniad a chydlyniad i addysg a hyfforddiant twristiaeth yng Nghymru.  Prif nod y Fforwm yw hyrwyddo hyfforddiant twristiaeth, gan annog pobl i ddewis twristiaeth fel gyrfa tymor hir, ac ymgyrchu dros brosiectau addysg a hyfforddiant sy’n berthnasol i anghenion y diwydiant. 
Os hoffech ddysgu rhagor am y Fforwm Hyfforddiant, cysylltwch â:   
Fforwm Hyfforddiant Twristiaeth Cymru, Uned 16 Adeiladau Frazer, 126 Stryd Bute, Caerdydd, CF10 5LE.  Rhif ffôn: 02920 495174  E-bost: enquiries@ttfw.org.uk
CROESO CYMRU 
Mae Croeso Cymru yn rhan o Adran Arloesi, Menter a Rhwydweithiau Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Mae’n ymrwymedig i geisio twf cynaliadwy mewn twristiaeth.  Y weledigaeth yw creu diwydiant aeddfed, hyder a llewyrchus sy’n gwneud cyfraniad hanfodol a chynyddol i les economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Cymru drwy sicrhau twf cynaliadwy, cydlyniad effeithio a chydweithredu ar bob lefel yn y diwydiant. 
Gall Llywodraeth Cynulliad Cymru ddarparu cymorth ariannol ar ffurf buddsoddiadau yn y busnesau twristiaeth hynny yng Nghymru sy’n cyflawni gwaith buddsoddi cyfalaf sy’n unol â’r blaenoriaethau datblygu.  I ganfod a ydych chi’n gymwys i dderbyn arian o’r ffynhonnell yma, cysylltwch â:
Phil Griffiths, Uwch Ddadansoddwr Buddsoddiad, Croeso Cymru, Uned 25, Parc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 OLJ Rhif ffôn: 01745 589024, e-bost: phil.griffiths@cymru.gsi.gov.uk
LLYGAD BUSNES
Mae Llygad Busnes yn un o wasanaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n darparu gwybodaeth ddiduedd, yn gyflym ac am ddim, i fusnesau.  Gall Llygad Busnes helpu busnesau i ddod o hyd i wybodaeth gywir a chyfredol a’u rhoi mewn cysylltiad â chyngor arbenigol a chymorth gan y sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat.  Ffoniwch 08457 969798 neu ewch i  www.llygadbusnes.org.uk  Mae gan Llygad Busnes ganolfannau ar draws Cymru ac mae’r tîm lleol yn Sir Ddinbych wedi’u lleoli yn Llyfrgell y Rhyl. 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0