Archwiliad AGGCC – 20 Chwefror hyd at 2 Mawrth 2012
Bydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn archwilio gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn Sir Ddinbych rhwng 20 Chwefror a 2 Mawrth. Bydd yr arolygwyr yn edrych yn fanwl ar brofiadau nifer fechan o ddefnyddwyr gwasanaeth, a ddewiswyd yn annibynnol. Byddant yn rhoi cyfle i’r defnyddwyr gwasanaeth hynny siarad yn uniongyrchol â hwy. Byddant hefyd yn siarad gydag ymarferwyr a phartneriaid.
Os ydych chi’n ddefnyddiwr gwasanaeth gyda phrofiad o dderbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol gan Sir Ddinbych ac wedi’ch dewis i fod yn rhan o’r broses hon, fe’ch gwahoddir i siarad gyda’r arolygwyr i leisio eich barn. Er nad oes yn rhaid i chi gymryd rhan, rydym ni a’r AGGCC yn eich annog i rannu eich profiadau gyda ni, er mwyn i ni fedru cynnal neu wella safonau ein gwasanaethau. Os oes gennych ofalwr neu rywun arall yr hoffech iddynt fod gyda chi pan fyddwch yn siarad gyda’r arolygwyr, byddant hwythau hefyd yn cael eu gwahodd i fynychu’r cyfarfod.
Bydd AGGCC yn cyhoeddi adroddiad swyddogol yn fuan ar ôl 2 Mawrth, a bydd y darganfyddiadau yn cael ei cyhoeddi ar y wefan hon.
Weithiau bydd pobl angen help gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd rhai pobl angen yr help am gyfnod byr tra bo eraill angen help gydol eu bywyd.
Pan gysylltwch â ni, gallwch ffeindio:
• Pwy sydd â hawl i’n gwasanaethau;
• Pa safonau y gallwch eu disgwyl gennym
• Sut i roi sylwadau neu gwyno
Rydym yn ceisio:
1. Sicrhau bod yr help a roddwn o safon uchel ac yn rhoi canlyniadau positif i bobl.
2. Datblygu gwasanaethau newydd (neu wella rhai presennol) fel Tai Gofal Ychwanegol, ymagwedd newydd tuag at Ailalluogi. Fe grëwn lawer o’r gwasanaethau newydd hyn gyda help cydweithwyr iechyd a model byw â chymorth dwys ar gyfer oedolion sydd ag anabledd dysgu.
3. Cynyddu nifer y bobl sy’n derbyn Taliadau Uniongyrchol fel y gall mwy o bobl reoli eu gofal eu hunain.
4. Gwella amddiffyniad oedolion sy’n agored i niwed.
5. Gwella’r ffordd y darparwn wasanaethau gyda sefydliadau annibynnol a gwirfoddol a’r ffordd y gwiriwn safonau’r gwasanaethau hyn.
6. Gwella’r ffordd yr ydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill a phartneriaid i gyflawni gwasanaethau gyda’n gilydd yn cynnwys gofal cartref, gwasanaethau i bobl gydag anabledd dysgu a datblygu model o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn yr un lle.
Beth fydd yn digwydd i’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi?
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ddefnyddiwr cofrestredig dan Ddeddf Gwarchod Data. Mae’n ofynnol i ni ddal a phrosesu gwybodaeth am bawb yn ôl canllawiau caeth. Bydd unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi’n cael ei drin yn gyfrinachol ac fe gedwir eich manylion yn saff ac yn ddiogel. Mae yna ganllawiau sy’n rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol eu dilyn os bydd angen rhannu gwybodaeth am bobl.
Adroddiadau Sicrwydd Ansawdd
Fel adran byddwn yn gofyn yn rheolaidd i ddefnyddwyr gwasanaeth ba mor fodlon ydyn nhw â’r gwasanaethau a dderbynnir. Gwneir hynny fel rheol drwy arolygon post neu gyfweliadau personol mewn adolygiad blynyddol o wasanaethau. Byddwn yn gofyn cwestiynau am ba mor dda yr ydym yn cyflawni ein safonau ein hunain, am ganlyniadau’r gwasanaethau a ddarperir a’r gwahaniaeth y mae’r gwasanaethau hynny wedi ei wneud i annibyniaeth person ac ansawdd eu bywyd. Bydd y Tîm Sicrwydd Ansawdd yn crynhoi’r wybodaeth yn adroddiadau a ddefnyddir i yrru gwelliannau a hysbysu Strategaethau Ansawdd Gwasanaeth Oedolion a Chomisiynu. Am wybodaeth ynglyn a pha adroddiadau sydd ar gael, cysylltwch â:
Tîm Sicrwydd Ansawdd
Tŷ Nant
Ffordd Nant Hall
Prestatyn
LL19 9LG
Ffôn:01824 712800
Ebost: timcyswlltcyntaf@sirddinbych.gov.uk
Y Safonau i’w disgwyl
Mae’r adran hon yn esbonio’r safonau sylfaenol y dylech eu disgwyl pan dderbyniwch wasanaethau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae’r wybodaeth hon ar gael ar ffurf taflen, mewn print mawr, tâp sain a Braille gan y Cynorthwyydd Cyfathrebu yn Ffordd Brighton.
Cwrteisi a Pharch
Gallwch ddisgwyl cael eich trin â Chwrteisi a Pharch. Golyga hynny:
• y dylech gael enw’r person yr ydych yn siarad â nhw
• y dylech ddisgwyl i’ch daliadau diwylliannol a chrefyddol gael eu parchu
• y dylech gael eich cyfarch â’ch teitl oni bai eich bod yn gofyn i ni beidio â gwneud hynny
Cyfrinachedd a Phreifatrwydd
Gallwch ddisgwyl i wybodaeth amdanoch chi gael ei thrin yn gyfrinachol. Golyga hynny:
• dim ond â phobl sydd angen gwybod y bydd staff yn trafod eich anghenion
• os byddwch yn cwyno dim ond y staff sy’n uniongyrchol gysylltiedig fydd yn gwybod y manylion.
Gwybodaeth
Dylech ddisgwyl cael taflenni sy’n esbonio’r gwasanaethau’r ydych yn eu derbyn, neu y gallech eu derbyn. Gallai’r rhain gynnwys:
“Hoffem gael eich barn ar y gwasanaethau a ddarparwn”
“Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion”
'Hawliau Lles'
'Cysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol'
'Taliadau Uniongyrchol'
Fe ddylech hefyd gael:
cyrchiad i gyngor sylfaenol am fudd-daliadau nawdd cymdeithasol y gallech fod â hawl iddyn nhw.
Os ydych wedi eich asesu i fod angen gwasanaeth gallwch ddisgwyl:
• copi o’ch asesiad os gofynnwch amdano fo
• copi o’ch Cynllun Gofal
• enw’r person sy’n gyfrifol am eich achos a dyddiad eich adolygiad nesaf
• amcangyfrif o gost eich gwasanaethau (os codir tâl arnoch chi) ac yna gyfrifiad ysgrifenedig
Cyfathrebu
Dylech ddisgwyl cyfathrebiad llawn â staff yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Golyga hyn y gallwch ddisgwyl:
• gallu cyfathrebu yn eich dewis iaith, a bydd hyn yn cynnwys o leiaf Cymraeg, Saesneg ac Arwyddiaith, yn ystod eich asesiad a phan dderbyniwch eich gwasanaethau. Fe wnawn bob ymdrech i gyfathrebu mewn ieithoedd eraill os ceir cais am hynny.
• gallu siarad â’r person sy’n gyfrifol am eich achos. Os nad yw hyn yn bosib dylech adael neges ac fe ddychwelir eich galwad
• mewn argyfwng, a’r tu allan i oriau swyddfa, gallu siarad â Gweithiwr Cymdeithasol o’r Tîm Dyletswydd Argyfwng.
Ymglymiad a Chyfranogiad
Dylech ddisgwyl:
• bod yn gwbl ymglymedig â thrafod y gwasanaethau y byddwch yn eu derbyn
• os oes gennych ofalwr, fe ofynnir iddyn nhw am eu barn ac fe gânt asesiad ar wahân
• y bydd yna gyn lleied ag sydd bosib o bobl yn ymglymedig â’ch gofal
• os bydd angen cyfarfod arall yna fe drafodir dyddiad y cyfarfod hwn, a’i gytuno, efo chi
Staff
Dylech ddisgwyl i’r staff sy’n asesu eich anghenion:
• gynhyrchu cerdyn adnabod
• fod â chymhwyster a/neu brofiad perthnasol
• gael cefnogaeth a hyfforddiant rheolaidd
Amseroedd Ymateb
Dylech ddisgwyl:
• i ni gysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith i drefnu asesiad o’ch anghenion – o fewn un diwrnod gwaith os bydd yn argyfwng
• i’ch galwadau ffôn gael eu dychwelyd o fewn 1 diwrnod gwaith
• i’ch llythyrau gael eu hateb o fewn 10 diwrnod gwaith
• os byddwch yn cwyno fe gysylltwn â chi o fewn 5 diwrnod gwaith i roi gwybod i chi sut y byddwn yn delio â’ch cwyn
Os byddwch wedi eich asesu i fod angen gwasanaeth:
• dylai eich gwasanaethau gychwyn ar yr amser a gytunwyd efo chi
• dylech dderbyn Cynllun Gofal o fewn 10 diwrnod gwaith o gychwyn eich gwasanaethau
• fe anfonir cyfrifiad ysgrifenedig atoch yn dweud a oes raid i chi dalu am wasanaethau, ac os felly, faint.
• fe anfonir y cyfrifiad o fewn 10 diwrnod i ni dderbyn y wybodaeth ariannol gywir (mae hyn yn gymwys i’r gwasanaethau y byddwn yn codi tâl amdanynt yn unig)
• caiff eich anghenion a’ch gwasanaethau eu hadolygu bob blwyddyn o leiaf. Bydd eich adolygiadau’n digwydd ynghynt hefyd os bydd angen
• os byddwch wedi eich asesu i fod angen cyfarpar sy’n costio llai na £1000 dylid eu cyflenwi o fewn 3 wythnos i’ch asesiad


