Gwasanaethau Personél Gyfarwyddiaeth
Caiff Gwasanaethau Personél a Hyfforddiant yng Nghyngor Sir Ddinbych eu darparu a’u cyflwyno ar lefel gorfforaethol a datganoledig. Ar lefel Cyfarwyddiaeth, swyddogaeth personél a hyfforddiant cyfarwyddiaeth yw:-
RÔL PERSONEL Y GYFARWYDDIAETH
- Darparu’r prif fan cyswllt wrth gynghori a chynorthwyo Cyfarwyddwyr a rheolwyr ynglyn â materion personél.
- Gweinyddu trefnau personél corfforaethol/cyfarwyddiaeth ar lefel weithredol cyfarwyddiaeth.
- Cynghori’r Prif Swyddog a’r Tîm Rheoli Cyfarwyddiaeth ynglyn â pholisïau a strategaethau personél cyfarwyddiaeth.
- Hyfforddi rheolwyr yn eu swyddogaeth fel rheolwyr staff cyfarwyddiaeth/adrannol.
- Gweithredu a gorfodi polisïau personél corfforaethol.
- Gwrthwynebu arferion drwg.
- Cyfrannu’n weithredol at ddatblygu polisïau personél strategol newydd.
RÔL HYFFORDDWYR ADRANNOL
- Cynorthwyo rheolwyr i enwi anghenion hyfforddiant y staff a rhoi cyngor iddynt ynglyn â’r modd gorau i ddiwallu’r anghenion hynny.
- Llunio rhaglenni i ddiwallu anghenion adrannol penodol.
- Cyflwyno/cydlynu rhaglenni yn benodol ar gyfer adrannau.
- Cyflwyno/cydlynu rhaglenni sgiliau arbenigol.
- Cydweithredu â Hyfforddiant corfforaethol a swyddogion hyfforddiant eraill.
- Rhoi cynhaliaeth i staff sy’n astudio am gymwysterau e.e. CGC.
- Rhagbaratoi staff mewn perthynas â pholisïau cyfarwyddiaethau/adrannol.
- Ffurfio polisïau hyfforddiant cyfarwyddiaethau/ adrannol ac adolygu a gwerthuso hyfforddiant yn eu hadran.

Rhoi adborth ar y tudalen hon