Iechyd Galwedigaethol/Iechyd & Diogelwch
O fewn Personél Canolog ceir hefyd Uned Iechyd a Diogelwch ac Uned Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol. Bydd Iechyd & Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol yn darparu’r gwasanaethau canlynol:-
Iechyd Galwedigaethol
Rhif Cyswllt 01824 712522
- Gwella ymwybyddiaeth a mynediad i Wasanaethau Iechyd Galwedigaethol, i Reolwyr ac Unigolion.
- Lleihau salwch a achosir gan weithio a goresgyn anawsterau gwaith a achosir gan salwch.
- Darparu cyngor a chyfarwyddyd ar faterion Iechyd Galwedigaethol a hyrwyddo arfer orau.
Ffurfio a datblygu polisïau Iechyd Galwedigaethol perthnasol a chydlynedig. - Cyflwyno ystod o wasanaethau meddygol gan gynnwys sgrinio amryw grwpiau o weithwyr y cyngor, e.e. Cyn-cyflogaeth, gyrwyr a phersonél patrôl croesi ysgolion.
- Darparu gwasanaeth cynghori cyfrinachol a chynhaliaeth seicolegol i unigolion.
- Darparu gwasanaeth atgyfeirio i’r Meddyg Galwedigaethol Ymgynghorol.
- Adnabod anghenion hyfforddiant a hwyluso i ddiwallu’r angen hwn.
- Datblygu a gweinyddu trefnau monitro.
Iechyd & Diogelwch
Rhif Cyswllt 01824 712582
- Sicrhau bod yr Awdurdod yn meddu ar strategaeth fframwaith Iechyd & Diogelwch sy’n gynhwysfawr ac effeithiol.
- Cynghori Tîm Rheoli a Chyfarwyddiaethau’r Cyngor Sir ynglyn â chydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd & Diogelwch a hyrwyddo arfer orau.
- Furfio a datblygu polisïau Iechyd & Diogelwch perthnasol a chydlynedig.
Monitro a gwneud ymchwiliad i ddigwyddiadau, tueddiadau ac arferion gyda golwg ar gymryd camau gweithredu addas. - Rhoi cyngor ynglyn ag asesu peryglon a gweithredu systemau, trefnau, offer diogel ac ati.
- Adnabod anghenion hyfforddiant Iechyd & Diogelwch a hwyluso i ddiwallu’r angen hwn.
- Ymgymryd â monitro amgylcheddol a rhoi cyngor yn gyfatebol i hynny
- Darparu mecanwaith ar gyfer rhannu arfer a phrofiadau Iechyd & Diogelwch ledled y Cyngor.

Rhoi adborth ar y tudalen hon