| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Castell Dinbych
Castell Dinbych

CASTELL DINBYCH Mae olion trawiadol Castell Dinbych, sydd ar gopa bryn serth uwchben y dref, yn mwynhau golygfeydd eang o Ddyffryn a Bryniau Clwyd.  Adeiladwyd castell Dinbych gan Henry de Lacy, un o brif gadlywyddion y brenin, fel rhan o ymgyrchoedd Edward Iaf yn y 13eg ganrif yn erbyn y Cywrmry. 
Nid dyma'r cadarnle cyntaf a adeiladwyd ar y safle strategol hwn: adeiladwyd y castell dros gadarnle Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn, yr arweinydd Cymreig a drechwyd gan Edward ym 1282, fel petai er mwyn pwysleisio gorychafiaeth y Saeson.  Cafodd Dafydd ei ddal a'i ladd ym 1283.


Creodd y gwaith o adeiladu Dinbych 'newydd' o 1282 ymlaen (a gafodd wared ar yr holl olion o amddiffynfeydd y Cymry) nid yn unig gastell, ond bwrdeistref Seisnig newydd wedi'i ddiogelu gan furiau tref.  Ymyrrwyd ar y gwaith adeiladu, a wnaed mewn dau gam, gan wrthryfel ym 1294 pan gipiwyd y castell am gyfnod gan y Cymry.  Gellir adnabod y gwaith diweddarach gyda'r cerrig gwahanol liwiau, murlenni mwy trwchus a thyrau onglog fel y rhai a geir yng Nghaernarfon, yn hawdd.  Nodwedd wychaf y castell yw ei borthdy mawr gyda'r dri thwr trawiadol, sy'n dangos arddull amlwg y Meistr James o St George, yr athrylith pensaerniol oedd yn gyfrifol am holl gestyll mawr Edward yng ngogledd Cymru.  Hefyd o ddiddordeb arbennig mae muriau'r dref sydd bron 1 km/0.6mllr o hyd.  Mae'r rhan

ddwyreiniol, gyda Thwr yr larlles a Thwr y Goblin yn ei amddiffyn, yn arbennig o goeth.


Addangosfa ac amgueddfa ar y safle

 

  • Tywyslyfr ar gael
  • Golygfeydd panoramig gwych o leoliad y castell ar ben y bryn
  • Mae Giat Burgess a muriau'r dref yn drawiadol
  • Nifer o lwybrau deniadol gerllaw yn cynnwys y llwybr drwy'r goedwig o amgylch muriau'r dref hanesyddol
  • Crwydrwch dref Dinbych i weld y siopau ac i gael lluniaeth
  • Mae llwybr enwog Clawdd Offa yn rhedeg nid nepell o Dinbych
  • Dilynwch lwybr Canoloesol Sir Ddinbych

Cliciwch ar 'Gwefan Cadw' am fwy o fanylion

 

 

 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0