Mae gan economi Sir Ddinbych amrywiaeth o sectorau allweddol. Mae yma gyflogwyr di-ail fel Honeywell yn Llanelwy a Indesit yn Bodelwyddan. Yn rhan ogleddol y Sir mae trefi glan môr traddodiadol Prestatyn a'r Rhyl ble mae'r Diwydiant Hamdden yn parhau'n un o'r prif gyflogwyr. Ym Mhrestatyn, mae Pontins yn rhedeg canolfan wyliau fawr. Rhai o atyniadau'r Rhyl yw'r y theatr a'r sinema. Sefydlodd Warners ganolfan wyliau yng Nghastell Bodelwyddan.
Bodelwyddan yw cartref ysbyty cyffredinol yr ardal, a hwn yw'r cyflogwr mwyaf sydd ar un safle yn y Sir. Mae'r Rhyl yn ganolfan siopa is-ranbarthol gyda nifer o siopau mawr fel Marks & Spencer a Next. Mae siop Sainsburys ar gyrion y dref.
Yn nes i'r de, naws cefn gwlad a geir yn bennaf ac yma amaethyddiaeth yw'r sector allweddol. Yn nhrefi marchnad Corwen, Dinbych a Rhuthun mae stadau diwydiannol lleol ac yn Llangollen, cartref yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol fyd-enwog, mae man cychwyn rheilffordd stêm a warchodwyd. Gan bob un gyfnewidfeydd ffôn y sir dechnoleg ADSL yn darparu amrediad eang o wasanaethau band eang i ddefnyddwyr.
Mae gan yr holl Sir statws Haen 1 'Ardal Gymorth' a rydd fynediad i'r graddfeydd uchaf o gymorth ariannol ar gyfer diwydiant sydd ar gael yn y DU. Hefyd, mae Sir Ddinbych yn gymwys am Ay rhaglen Cydgyfeiriant oddi wrth Undeb Ewrop.
Ystadegau Sir Ddinbych (Cyfrifiad 2001)
Y Boblogaeth
Cyfanswm y boblogaeth = 93,065
Y boblogaeth wrywaidd = 44,544 (48% o'r cyfanswm)
Y boblogaeth Fenywaidd = 48,521 (52% o'r cyfanswm)
Y Gweithgaredd Economaidd
Oedran Gweithio = 65,203 (70.1% o'r boblogaeth)
Economaidd weithredol = 40,678 (62.4% o'r boblogaeth)
Economaidd anweithredol = 24,525 (37.6% o'r boblogaeth)
Di-waith = 2,232 (5.5% o'r boblogaeth)


Rhoi adborth ar y tudalen hon