| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Cadwraeth Adeilad

Un rhan o adran Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio y Cyngor Sir yw'r Tîm Cadwraeth.  Mae'n ymdrin â threftadaeth adeiledig y Sir, megis adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth a pharciau a gerddi hanesyddol.  Mae'r dreftadaeth yn ased gwerthfawr ac mae'r Tîm Cadwraeth yno i helpu i sicrhau y caiff ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau i ddod ond hefyd i helpu wrth ddefnyddio'r dreftadaeth i wneud lles i'r economi leol.

Mae'r tîm yn falch o roi cyngor ar unrhyw fater sy'n ymwneud â'r dreftadaeth adeiledig pa un ai'n gysylltiedig â'r mesurau rheoli ychwanegol a all fod mewn bod, beth sydd yn dderbyniol a heb fod yn dderbyniol a pha grantiau a all fod ar gael.  Mae'r dreftadaeth adeiledig yn gwneud cyfraniad pwysig at gymeriad lleol ardal.  Dim ond drwy ei diogelu y gallwn fod yn siwr nad yw'r arwahanrwydd lleol sy'n gwahaniaethu un ardal oddi wrth y llall yn cael ei wanhau neu'i golli.

Mae tîm Cadwraeth yn sefydlog yn Caledfryn, Ffordd y Ffair, Dinbych LL16 3RJ.

Mae'r staff ar gael, fel y canlynol:- 

Pensaer Cadwraeth01824 706937
Arbenigwr Cadwraeth a Rheolwr Prosiect01824 706777
Rheolwr Prosiect, Cynllun Treflunio Treftadaeth 01824 706943
Swyddog Prosiect, Cynllun Treflunio Treftadaeth 01824 706718
Swyddog Marchnata a Pherfformiad01824 706778

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych