Archwilio Mewnol yng Nghyngor Sir Ddinbych
Gall gweithio yn y Gwasanaethau Archwilio Mewnol gynnig profiad sy’n amrywiol ac yn rhoi boddhad.
Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno graddfeydd gyrfa i ddatblygu hyfforddedigion drwodd i lefel archwilydd proffesiynol. Byddwn yn dechrau’r hyfforddiant fel arfer gyda chymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT). Ein nod, fodd bynnag, yw cael yr archwilwyr i gyd wedi’u hyfforddi i lefel Diploma Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol (PIIA) o leiaf ac, os yn bosibl, i aelodaeth lawn (MIIA).
Rydym yn amcanu at wneud yn siŵr fod yr Adran a’i staff yn cwrdd â safonau archwilio proffesiynol o ran medrusrwydd proffesiynol, cyflawni gwaith archwilio a rheolaeth yr Adran.
Os oes gennych…
- sgiliau cyfathrebu da
- y gallu i ysgrifennu adroddiadau trawiadol eu heffaith
- gallu trefniadol da
- sgiliau TG rhagorol
- meddwl miniog a dadansoddol
- dyhead i gyfrannu at wella gwasanaethau’r Cyngor
...yna fe allai Archwilio Mewnol fod yr yrfa i chi. Pan fydd swyddi gwag yn codi, caiff y rhain eu postio ar adran Swyddi Gwag y wefan hon.


Rhoi adborth ar y tudalen hon