| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Personél/Hyfforddiant Corfforaethol

Caiff Gwasanaethau Personél a Hyfforddiant yng Nghyngor Sir Ddinbych eu darparu a’u cyflwyno ar lefel gorfforaethol a datganoledig.  Rôl y personél (canolog) a hyfforddiant Corfforaethol yw:-

RÔL PERSONÉL CORFFORAETHOL
Rhif Cyswllt 01824.712533

Penderfynu ar gyfeiriad strategol.

  • Diffinio gwerthoedd a safonau allweddol i’w cytuno gan y Tîm Rheoli.
  • Ffurfio a datblygu polisïau personél a hyfforddiant perthnasol a chydlynedig.
  • Monitro ac archwilio bod y polisïau corfforaethol yn cael eu gweithredu’n gyson.
  • Rhagbaratoi a hyfforddi staff sut i weithredu’r polisi newydd.
  • Rhoi ysgogiad creadigol ar lefel strategol.
  • Cynghori Swyddogion Personél cyfarwyddiaeth (DPO)/Swyddogion mewn Cyfarwyddiaethau â chyfrifoldeb dros Bersonél, ynglyn â gweithredu polisïau corfforaethol a rhoi cynhaliaeth ac arweiniad gweithredol wrth iddynt gyflawni’u swyddogaeth.
  • Darparu mecanwaith ar gyfer rhannu arferion a phrofiadau personél positif ledled y cyngor.
  • Ymgymryd â’r swyddogaethau hynny y gellir eu darparu’n unig yn synhwyrol mewn modd corfforaethol, e.e. y mecanwaith trafod corfforaethol gydag undebau a mentrau cydraddoldebau corfforaethol.

RÔL HYFFORDDIANT CORFFORAETHOL
Rhif Cyswllt 01824.712537

  • Adnabod anghenion hyfforddiant y sefydliad (fel rhan o’r broses gynllunio adnodd dynol).
  • Diffinio safonau corfforaethol, eu gwerthuso a rhoi adroddiad i’r Tîm Rheoli.
  • Ffurfio a rhoi arweiniad ynglyn â Rhaglenni Datblygu Corfforaethol.
  • Datblygu sgiliau newydd gyda staff i ddiwallu anghenion y sefydliad yn y dyfodol.
  • Cynghori ynglyn ag arfer orau a monitro ansawdd yr hyfforddiant.
  • Cydlynu Buddsoddwyr mewn Pobl.
  • Darparu fforwm ar gyfer Swyddogion Hyfforddiant Cyfarwyddiaeth.
  • Cyflwyno a rheoli cyrsiau hyfforddiant corfforaethol mewn partneriaeth â darparwyr allanol etholedig lle bo’n gymwys.
  • Darparu gwasanaeth ymgynghoriaeth.
  • Cydgordio a threfnu o fewn y Cyngor brofiad gwaith i ddisgyblion ysgol, colegau a phrifysgolion.
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0