Mae gan y cyngor gynlluniau argyfwng sydd wedi’u pennu gan ddeddfwriaeth y llywodraeth a’r Gofrestr Risg Gymunedol i’w helpu i ymateb yn gyflym ac yn effeithlon i argyfyngau mawr.
O dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 http://www.ukresilience.info/preparedness/ccact.aspx (a rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig) mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gyfres o ddyletswyddau i sicrhau eu bod yn cynllunio’n effeithiol ar gyfer argyfyngau sifil posibl. Petai argyfwng, rhaid i’r awdurdod lleol fod yn gallu ymateb i gynorthwyo pobl ac eiddo ac i gynnal ei wasanaethau.
Mae’r cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Sicrhau ei fod yn barod bob amser fel bod y Cyngor yn gallu darparu ymateb priodol petai argyfwng, yn ystod yr argyfwng ac ar ei ôl;
- Darparu rhybuddion a gwybodaeth i’r cyhoedd;
- Parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd petai argyfwng yn codi; a
- Gweithio gyda gwasanaethau brys, awdurdodau lleol cyfagos ac asiantaethau eraill drwy’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth i gynyddu’r gallu i wrthsefyll argyfyngau.
Mae Fforwm Lleol Cymru Gydnerth yn paratoi polisi ac mae hefyd yn gyfrifol am greu Cofrestr Risg Gymunedol yn seiliedig ar y prif beryglon yn ardal Gogledd Cymru. Mae maint a math y perygl wedyn yn penderfynu pa fath o gynllun argyfwng y bydd Sir Ddinbych yn ei gynhyrchu. Am ragor o wybodaeth am y Gofrestr Risg Gymunedol, cliciwch ar y linc ar y chwith i fynd at wefan Heddlu Gogledd Cymru a lawrlwytho’r gofrestr.
Cynhyrchir cynlluniau argyfwng drwy ymgynghori ag aelodau’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth ac maen nhw’n cael eu hadolygu bob blwyddyn. Hefyd mae’r cynlluniau’n cael eu hymarfer naill ai ar ben bwrdd neu’n fyw.
Mae’r Rheolwr Argyfyngau Sifil Posib, Don Norris, a’r tîm cynlluniau argyfwng yn aelod o grŵp tasg y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth, felly hefyd y cyrff a restrir isod
- Cyngor Sir Ddinbych
- Heddlu Gogledd Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
- Asiantaeth Arforol a Gwylwyr y Glannau
- Ymddiriedolaethau Gofal Cychwynnol
- Milwrol
- Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
- Tîm Rhanbarthol Cymru Gydnerth
- Awdurdodau lleol Gogledd Cymru yn cynnwys Wrecsam, Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn
- Cyfleustodau


Rhoi adborth ar y tudalen hon