Pridiannau Tir Lleol a Chofrestru Comin
Trem Clwyd
Canol y Dre
Rhuthun
LL15 1QA
Teleffon:
01824 708071
Ffacs:
01824 708039
Mae'r tîm Pridiannau Tir Lleol yn gyfrifol am broses Chwiliadau Awdurdod Lleol, sy'n rhan hanfodol o brynu eiddo neu ddatblygu darn o dir.
Mae'r Chwiliad Awdurdod Lleol yn gyfres o gwestiynau safonol gyda'r nod o roddi cymaint o wybodaeth ag y bo modd i unrhyw ddarpar brynwr ynglŷn ag eiddo/dir. Mae hyn er mwyn i chi fod yn ymwybodol o unrhyw faterion lleol sy'n effeithio'r eiddo/dir rydych ar fin ei brynu, i sicrhau nad oes unrhyw beth cudd.
Bydd y tîm Pridiannau Tir Lleol yn chwilio am unrhyw Geisiadau Cynllunio neu Geisiadau Rheoliadau Adeiladu ar yr eiddo, Gorchmynion Cadw Coed ar neu'n cyffinio'r eiddo a darparu gwybodaeth ar Ffyrdd Mabwysiedig o gwmpas yr eiddo, ac unrhyw faterion eraill yr holir amdanynt.
Os ydych angen Chwiliad Awdurdod Lleol neu Chwiliad Cofrestriad Comin, fe'ch cynghorir i gysylltu â'ch Cyfreithiwr a gofyn iddo gysylltu â'r tîm Pridiannau Tir Lleol, a fydd yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd.

Rhoi adborth ar y tudalen hon