| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sut i wneud cais
Ymgeiswyr am y tro cyntaf

Dylai’r rhai sy’n gwneud cais am y tro cyntaf gyflwyno cais i’r Awdurdod Addysg Lleol sy’n gyfrifol am yr ardal maent yn byw ynddi’n arferol ar adeg gwneud y cais, oni bai eu bod wedi symud i’r ardal er mwyn astudio yn unig.

Dylech gyflwyno cais i Gyngor Sir Ddinbych os ydych chi neu eich rhieni / gwarcheidwad neu briod yn talu Treth y Cyngor i’r Awdurdod hwn.

Os ydych yn byw yn Sir Ddinbych ac yn mynychu ysgol uwchradd yn Sir Ddinbych bydd Ffurflenni PN1 yn cael eu dosbarthu gan eich ysgol ddiwedd mis Mawrth.

Os nad ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd ond yn teimlo mai ni yw’r Awdurdod perthnasol ffoniwch ni ar un o’r rhifau a nodwyd yn flaenorol i drafod eich achos, ac i gael Ffurflen PN1 os yw’n briodol.

Myfyrwyr sy’n parhau â’u cwrs

Anfonir ffurflen gais PR1 / PR1a atoch yn awtomatig gan y Students Loans Company, cyn belled â’ch bod wedi nodi hyd eich cwrs yn gywir ar ffurflenni blaenorol.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0