| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Presgripsiwn Llyfrau Cymru

Presgripsiwn Llyfrau Cymru

Beth ydy Presgripsiwn Llyfrau Cymru?
Nod cynllun Presgripsiwn Llyfrau Cymru yw helpu pobl sydd â phroblemau seicolegol mân i gymhedrol. Gall meddyg teulu, cynghorwr practis neu neu aelod o’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol roi presgripsiwn am lyfr sy’n mynd i’r afael â'r broblem. Ewch a’r presgripsiwn i unrhyw lyfrgell  yn y sir.

Oes rhaid I mi fod yn aelod o’r llyfrgell?
Nagoes  Ewch a’ch presgripsiwn i'r llyfrgell.

Beth os nad yw’r llyfr ar gael?
Mae gan bob llyfrgell ddau gopi neu ragor o’r llyfr y rhoddwyd presgripsiwn i chi amdano,  os nad yw’r llyfr ar gael fe wnawn  sicrhau copi ar eich cyfer.

A yw ‘r gwasanaeth yn gyfrinachol?
Ydi.  Ni fydd staff y llyfrgell yn datgelu unrhyw wybodaeth am y defnyddwyr.

A yw’r llyfrau yn wir  yn gallu helpu?
Ydyn Mae tystiolaeth dda iawn bod llyfrau’n gallu helpu pobl sydd â phroblemau emosiynol. Mae’r llyfrau ar y rhestr wedi’u dewis yn arbennig am eu safon. Wrth gwrs, ni chaiff pawb ei helpu., os ydych yn parhau i gael anhawster neu drafferth, yna bydd angen i chi fynd yn ol at eich meddyg teulu (neu gysylltu eto a’r gweithiwr proffesiynol a roddodd y presgripsiwn am y llyfr) fel y gallwch gael rhagor o gyngor.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0