| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Ymuno â'r Llyfrgell
Llyfrgell Llanelwy

Pwy gaiff ymaelodi?
Pawb - beth bynnag fo'ch oed!

Sut mae ymaelodi?
Trwy lenwi ffurflen ymaelodi yn y Ilyfrgell neu ar y we, a dangos 1 prawf adnabod ar eich ymweliad cyntaf.

Ydi o am ddim?
Ydi - a gallwch fenthyca llyfrau, chwilio am wybodaeth a defnyddio'r cyfrifiaduron i gyd am ddim. Rydym yn codi tal am fenthyca fideos, chryno ddisgiau, a DVDs.

Be ga'i fenthyg?
Hyd at 10 eitem ar y tro - yn lyfrau, llyfrau ar dâp, fideos, cryno ddisgiau a DVDs.

Am faint ga i eu cadw?
Hyd at 3 wythnos i ddechrau, ond gallwch eu hadnewyddu 5 gwaith cyn belled nad oes unrhyw un arall wedi gofyn amdanynt.

Beth os ydw i'n hwyr?
Codir dirwy ar bob eitem hwyr, ond i osgoi hynny, pam na wnewch chi gysylltu a'r Ilyfrgell i'w hadnewyddu?

Oes raid eu dychwelyd i'r un llyfrgell bob tro?
Na - mae gennym 8 Ilyfrgell. Croeso i chi ddychwelyd yr eitemau i'r Ilyfrgell mwyaf cyfleus i chi.

Beth os ydw i'n chwilio am rywbeth?
Bydd staff y Ilyfrgell yn barod i'ch helpu i chwilio am wybodaeth arbennig neu ddod o hyd i lyfr penodol.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych