Rheoli Pla a'r Warden Cwn
Iechyd Cyhoeddus
Ty Russell
Ffordd Churton Road
Y Rhyl
LL18 3DP
Ffôn 01824 706444
Ffacs: 01824 706357
Holl Faterion eraill:
Iechyd Cyhoeddus
Neuadd y Sir
Rhuthun
LL15 1YN
Ffôn 01824 706080
Ffacs: 01824 706051
Mae'r tim Iechyd Cyhoeddus yn gyfrifol am archwilio cywnion ynglyn ag iechyd cyhoeddus a chymryd camau gorfodi priodol yn erbyn y troseddwyr.
Rydym yn rhoi cyngor a thriniaeth ar bla megis llygod mawr, llygod, chwilod du, pryfed, gwenyn meirch, pỳcs mewn tai ac eiddo busnes. Efallai y bydd tâl am y driniaeth mewn rhai achosion.
Rydym yn rhedeg Gwasanaeth Warden Cŵn y Cyngor, sy'n rhoi cyngor ac os oes angen, yn cymryd camau gorfodi mewn perthynas ag amrywiol broblemau sy'n gysylltiedig â chŵn e.e. cŵn crwydrol, cŵn coll, cŵn yn cyfarth a baw cŵn. Gellir rhoi dirwy yn y fan a'r lle i berchnogion cŵn nad ydynt yn clirio baw eu cŵn. Rydym hefyd yn rhoi cyngor ar ymddygiad da a hyfforddi cŵn.
Rydym yn rhoi cyngor, yn archwilio a rhoi trwyddedu i fusnesau megis Sw, Siopau Anifeiliaid Anwes, Sefydliadau Marchogaeth, Bridio Cŵn, Anifeiliaid Gwyllt Peryglus, Lletya Anifeiliaid, Safleoedd Carafannau. Rydym hefyd yn delio â chofrestru tyllu'r croen e.e. Tatŵs, Tyllau Clust, Electrolysis ac Aciwbigo.
Rydym yn archwilio cwynion ynglŷn â systemau draenio tanciau septig mewn ardaloedd gwledig a chymryd camau yn erbyn y perchnogion/deiliaid os yn briodol. Mewn ardaloedd trefol mae draeniau preifat a/neu garthffosydd diffygiol, rydym yn cynorthwyo trwy gyflwyno'r rhybuddion cyfreithiol neu drefnu gwaith adfer.

Rhoi adborth ar y tudalen hon