Er mwyn hybu safonau uchel mewn iechyd a lles anifeiliaid rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru; Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a Gwasanaeth Milfeddyg y Wlad; cyrff ffermio a lles anifeiliaid, ac awdurdodau lleol eraill.
Mae Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn ymweld â ffermydd a marchnadoedd yn rheolaidd i sicrhau cydymffurfiad gyda'r gyfraith ac i addysgu a chynghori. Trwy wneud hyn medrent fonitro ac annog pawb sy'n gyfrifol am anifeiliaid i ofalu amdanynt yn briodol.
Gan ei bod yn ddyletswydd ar holl ffermwyr i gadw cofnodion i sicrhau y gellir olrhain anifeiliaid os bydd afiechyd, mae swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn ymweld â ffermydd a gwirio'r cofnodion hyn. Yn ystod yr ymweliad, maent hefyd yn sicrhau bod yr anifeiliaid yn iach ac yn rhydd rhag afiechyd.
Mae rheolau llym yn manylu sut dylid cludo anifeiliaid. Yn Sir Ddinbych mae cannoedd o gerbydau da byw yn cael eu harchwilio gan Swyddogion bob blwyddyn, i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda'r rheolau lles hyn.
Mae gan Gyngor Sir Ddinbych fwy na 300 diwrnod marchnad bob blwyddyn. Bydd Swyddogion yn bresennol yn y marchnadoedd hyn i sicrhau bod yr anifeiliaid yn ffit i fod yno ac yn cael eu trin gyda pharch, a hefyd i sicrhau bod y marchnadoedd yn lân, rhydd rhag peryglon ac yn cael eu diheintio ar ôl pob arwerthiant.
Mae'r swyddogion yn cofnodi'r wybodaeth ar symudiadau anifeiliaid ar ddata-bas symudiadau canolog. Maent yna'n medru monitro'r gofynion ar gyfer manylion fferm, adnabod anifeiliaid a'r cyfnod gwahardd symud priodol. Mae'r wybodaeth hon yn bwysig er mwyn rheoli ac erydu, os yn briodol, afiechydon anifeiliaid.


Rhoi adborth ar y tudalen hon