Pa gyrsiau sy’n gymwys i dderbyn cymorth ariannol?
Cynigir cymorth ariannol i fyfyrwyr i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr ar gyrsiau penodedig, yn cynnwys yr isod:
Gradd gyntaf mewn Prifysgol neu sefydliad Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig
- Diploma Addysg Uwch
- Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch penodol
- Cymwysterau hyfforddiant athrawon dechreuol yn cynnwys Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig neu gyrsiau hyfforddiant athrawon dechreuol ôl-raddedig amser llawn neu ran amser eraill
Gall cyrsiau eraill fod yn gymwys os ydynt wedi eu dynodi fel rhai sy’n gyfatebol i gwrs gradd cyntaf gan yr Adran Addysg a Sgiliau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch pa gyrsiau sy’n gymwys i dderbyn cymorth ariannol i fyfyrwyr mae croeso i chi gysylltu â ni drwy unrhyw un o’r cyfryngau a nodwyd yn flaenorol. Sicrhewch fod gennych fanylion llawn am y cwrs, yn cynnwys cod y cwrs gan UCAS.

Rhoi adborth ar y tudalen hon