| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Yr Anwydwst Adar (Ffliw'r Adar)

Yr Anwydwst Adarol (Ffliw'r Adar)
Dim ond un hil o’r Anwydwst Adarol Tra Pathogenig (H5N1) sy’n gallu cael ei drosglwyddo i fodau dynol. Er mor annhebygol hynny, os digwydd i’r hil hwn ddod i mewn i’r wlad hon, yna y bobl sydd mewn mwyaf o berygl yw’r rheini sy’n gweithio yn y diwydiant dofednod, neu’n fwy annhebyg yr helwyr adar hynny a.y.b. sy’n trin adar gwyllt, yn hytrach nag aelodau’r cyhoedd.

Arolwg Adar Gwyllt

Os ydych yn canfod 10 neu fwy o adar o’r un rhywogaeth wedi marw neu o wahanol rywogaethau yn yr un lle dylech gysylltu â Llinell Gymorth 08459 33 55 77a dewis opsiwn Ffliw Dofednod sydd ar agor o 9am - 5pm,  Dydd Llun i Ddydd Gwener.

Nid oes angen casglu na chyfeirio aderyn marw unigol.

Gan nad yw’r “aderyn gardd ar ei ben ei hun” yn cael ei ystyried yn broblem dylai pobl gael gwared â’r rheini yn y ffordd arferol.  (Gweler Canllawiau ar sut i ddelio ag adar gwyllt ac adar gardd sydd wedi marw isod) Cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw cael gwared o adar marw.  Nid yw'r Cyngor Sir fel arfer yn casglu anifeiliaid marw o unrhyw rywogaeth - gweler y polisi ar gasglu anifeiliaid marw neu ffoniwch y Gwasanaeth Ganolfan Gwsmeriaid ar 01824 706100 i gael mwy o wybodaeth.

Canllawiau ar sut i ddelio ag adar gwyllt ac adar gardd sydd wedi marw
Mae’r cyngor a roddir yma yn berthnasol i holl amgylchiadau lle gall aelodau’r cyhoedd ddod ar draws aderyn marw, os oes ffliw adar yn y DU ai peidio. 
Os mai dim ond un aderyn bychan gardd, neu aderyn gwyllt yw, yna nid oes angen i chi alw llinell gymorth.  Fe ddylech:

  • ei adael i fod, neu 
  • gael gwared ohono drwy ddilyn y canllawiau isod 

Gall adar gwyllt gario nifer o glefydau sydd yn heintus i bobl, a dylai dilyn camau hylendid gofalus syml leihau’r risg o heintiad.  Mae’n anodd i bobl ddal ffliw dofednod oddi wrth adar ac mae’r camau syml isod hefyd yn effeithiol yn erbyn ffliw dofednod.

  • Os oes rhaid i chi symud aderyn marw
  • Dylech osgoi cyffwrdd â’r aderyn gyda’ch dwylo noeth
  • Os yn bosibl, gwisgwch fenig amddiffynnol tafladwy cyn ei godi (os nad oes menig tafladwy ar gael, gweler rhif 7)
  • Gosodwch yr aderyn marw mewn bag plastig addas sydd ddim yn gollwng os yn bosibl.  Dylech gymryd gofal rhag difwyno ochr allan i’r bag
  • Clymwch y bag a’i roi mewn bag plastig arall
  • Tynnwch y menig gan eu troi y tu chwith allan ac yna eu gosod mewn bag plastig arall.  Clymwch y bag a’i roi mewn bin sbwriel cartref arferol.  
  • Dylech olchi eich dwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr. 
  • Os nad oes menig tafladwy ar gael, gallwch ddefnyddio bag plastig fel menig dros dro.  Ar ôl i’r aderyn marw gael ei godi, gallwch droi’r bag tu chwith allan a’i glymu.  Dylech ei roi mewn bag plastig arall, ei glymu a chael gwared ohono mewn bin sbwriel cartref yn y dull arferol. 

Fe all yr aderyn marw gael ei gladdu, ond nid mewn bag plastig

Dylech olchi unrhyw ddillad sydd wedi cyffwrdd â’r aderyn marw drwy ddefnyddio glanedydd golchi arferol a’r tymheredd arferol ar gyfer golchi dillad.  

Dylech lanhau’n drylwyr unrhyw arwyneb tu mewn sydd wedi eu difwyno gyda glanedydd cartref arferol.

Mae mwy o fanylion ar gadw golwg ar adar gwyllt ar gael ar wefan Llywodraeth y Cynulliad Cymru

Pobl sy’n Cadw Dofednod

Os ydych yn cadw haid dros 50 o adar i bwrpas masnachol dylech gofrestru eich haid erbyn  28ain Chwefror 2006.  Gallwch gofrestru haid o lai na 50 o adar, os dymunwch.  Gellwch wneud hyn drwy’r llinell gymorth cofrestru ar: 0800 634 1112 neu drwy wefan Defra

Pawb sy’n Cadw Adar

Dylai pawb sy’n cadw adar gadw at y mesurau bioddiogelwch sylfaenol isod i osgoi unrhyw siawns o heintiad gan adar gwyllt:-

  • Bwydwch a dyfriwch eich adar dan do
  •  Cadwch eich adar oddi wrth adar gwyllt cymaint â phosib 
  •  Cadwch bopeth yn lân – mae porthiant wedi’i golli, gwely a dŵr llonydd yn denu adar gwyllt a fermin
  •  Gwnewch yn siŵr fod eich dillad, eich esgidiau a’ch dwylo yn lân cyn ac ar ôl dod i gysylltiad â’ch adar.
  •  Dylai ymwelwyr wneud yr un fath
  •  Byddwch yn wyliadwrus!
  •  Os yw eich adar yn sâl, cysylltwch â’ch milfeddyg ar unwaith. Mae arwyddion i gadw golwg amdanynt yn  cynnwys problemau anadlu, colli pwysau, a dodwy llai o wyau.
  • Gellwch ddod o hyd i fwy o gyngor ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru neu wefan Defra
  • Ambell Gwestiwn ac Ateb

Daw’r wybodaeth ganlynol o wefan Defra.

1. Beth yw’r Anwydwst Adarol?

Mae’r Anwydwst Adarol yn glefyd tra heintus sy’n effeithio ar lawer rhywogaeth o adar, yn cynnwys adar masnachol, adar gwyllt ac adar anwes. Fe all effeithio ar bobl ac anifeiliaid eraill mewn rhai amgylchiadau. Fe’i hachosir gan firws anwydwst Math A.  Gall firysau AI gael eu dosbarthu yn ôl eu gallu i achosi clefyd difrifol (pa mor bathogenig ydynt) naill ai yn dra pathogenig neu bathogenig isel. Gall firysau anwydwst adarol tra pathogenig - (HPAI) achosi clefyd difrifol mewn adar sy’n dueddol i’w gael ac at ei gilydd mae firysau anwydwst adarol  pathogenig isel - (LPAI) yn achosi clefyd ysgafn neu ddim clefyd o gwbl. Mae’r anwydwst adarol yn un o’r clefydau dofednod pwysicaf, a rhoed gwybod am achosion difrifol o’r clefyd mewn llawer o wledydd. Yn y DU fe’i cadarnhawyd ddiwethaf mewn haid o 8000 o dyrcwn yn Norfolk yn ôl yn Ionawr 1992.

 

2. Paham y mae cymaint o bryder ynghylch yr achosion presennol?

Mae yna bryder y gall y firws newid (ailddosrannu neu fwtadu) i ddod i’r fei fel firws newydd sy’n trosglwyddo’n rhwydd rhwng pobl ac yn gallu achosi clefyd mewn pobl, adar ac anifeiliaid eraill. Mae firysau Anwydwst A yn digwydd ledled y byd mewn dyn ac mewn amrywiaeth eang o famaliaid.

Mae’r hil H5N1 AI tra pathogenig sy’n gysylltiedig â’r rhan fwyaf o’r achosion yn Asia yn ystod y 18 mis diwethaf wedi dangos y gallu i neidio’r rhwystr rhywogaethau o dro i dro ac i achosi clefyd difrifol, gyda marwolaethau uchel, mewn pobl. Nid yw wedi dangos y gallu i symud yn rhwydd rhwng pobl.

Gall firysau anwydwst adarol a dynol gyfnewid defnydd genynnol pan fydd bod dynol neu anifail arall sy’n dueddol i gael ei heintio â’r ddau firws yn cael ei heintio ar yr un pryd â’r ddau firws. Gallai hyn greu isdeip cwbl newydd o’r firws anwydwst y byddai gan ychydig, os dim, bodau dynol imwnedd iddo, ac a allai fod â’r gallu i ledaenu rhwng bodau dynol.

Mae mwy o wybodaeth am y perygl i hyn ddigwydd a’r oblygiadau i’w cael ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a gwefan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd (HPA).

 

3. Rwyf wedi clywed y bydd ffliw’r adar yn lladd miliynau o bobl.  Ai’r un clefyd yw hwn?

Na. Clefyd ar adar yw’r anwydwst adarol (ffliw’r adar) yn anad dim. Fe’i hachosir gan firysau anwydwst sy’n perthyn yn agos i firysau anwydwst dynol. Yn anaml y mae’n cael ei drosglwyddo i bobl sydd mewn cysylltiad agos â dofednod neu adar eraill a dim ond gyda rhai hilion o anwydwst adarol.

Mae yna bosibilrwydd i firysau anwydwst adarol fwtadu’n ffurfiau newydd o firws sy’n gallu achosi clefyd difrifol mewn bodau dynol a lledaenu’n rhwydd o berson i berson. Mae’r posibilrwydd hwnnw’n bryder mawr i iechyd y cyhoedd.

 

4. A yw’n effeithio ar fodau dynol ac os felly, sut?

Caiff bodau dynol ond eu heintio fel arfer drwy gysylltiad agos ag adar byw sydd â’r haint arnynt. Mae difrifoldeb y clefyd mewn bodau dynol yn amrywio o glefyd ysgafn i glefyd anadlu difrifol. Mae hyn yn dibynnu ar hil y firws a nodweddion y sawl a heintiwyd. Adroddwyd am farwolaethau dynol yn dilyn clefyd difrifol.

Ers mis Rhagfyr 2003, mae AI yn Fietnam a Thailand, ac yn fwy diweddar yng Nghambodia ac Indonesia, wedi arwain at 112 achos mewn pobl (a 57 marwolaeth).

 

5. All pobl ei gael gan bobl eraill?

Bu nifer cyfyngedig o achosion â chryn gyhoeddusrwydd iddynt ble mae tystiolaeth i awgrymu trosglwyddiad o berson i berson ond hyd yn hyn nid oes dim tystiolaeth fod y firws anwydwst adarol tra pathogenig wedi addasu i ledaenu’n rhwydd mewn pobl.

 

6. Pa grwpiau o bobl fyddai mewn mwyaf o berygl pe ceid y clefyd mewn dofednod yn y DU?

Pobl sydd mewn cysylltiad agos â dofednod heintiedig neu ddefnydd heintus o ddofednod sydd mewn mwyaf o berygl. Byddai hyn yn cynnwys gweithwyr ffermydd dofednod, milfeddygon ac eraill sy’n ymwneud â rheoli clefyd.

 

7. Allwn ni frechu pobl rhag ffliw’r adar?

Na. Nid oes dim brechlyn ar hyn o bryd i ddiogelu pobl rhag haint neu glefyd AI, er bod un yn cael ei ddatblygu. Mae yna dystiolaeth dda fodd bynnag fod firysau ffliw adarol yn ymateb i gyffuriau gwrthfirysol, ac yn y DU byddai oseltamivir neu gyfrwng gwrthfirysol priodol arall yn cael ei ddefnyddio i drin ffliw adarol mewn pobl a ddaw i gysylltiad â’r firws, neu i ddiogelu pobl, yn cynnwys gweithwyr dofednod, a allai ddod i gysylltiad â’r firws yn ystod gweithgareddau rheoli’r clefyd. Bydd pobl o’r fath yn cael eu cyflenwi â chyffuriau gwrthfirysol priodol, dan brescripsiwn, cyn gynted â phosibl ac o leiaf o fewn 48 awr i ddod i gysylltiad â’r firws.

Mae’r Cyd-Bwyllgor ar Frechu ac Imwneiddio (JCVI) yn cynghori ar hyn o bryd nad yw brechu gweithwyr dofednod a milfeddygon â brechlyn ffliw dynol tymhorol yn ôl arfer yn cael ei argymell, ond y dylid ei ddefnyddio mewn achos o ffliw adarol sydd wedi’i gadarnhau fel amddiffyniad rhag y posibilrwydd o ailddosraniad â firws ffliw dynol ar gyfer y bobl hynny a allai ddod i gysylltiad â’r firws yn ystod gweithgareddau rheoli’r clefyd.

 

8. A yw hi’n ddiogel bwyta dofednod neu helgig?

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ystyried nad yw achos o ffliw adarol yn berygl diogelwch bwyd i fwytawyr yn y DU. Y rheswm am hyn yw bod y perygl o ddal y clefyd mewn pobl yn deillio o fod mewn cysylltiad agos â dofednod byw sydd â’r clefyd arnynt ac nid drwy fwyta dofednod. Ni fu dim adroddiadau am bobl sy’n trin cig dofednod yn cael eu heintio. Cyngor y WHO yw nad oes dim perygl iechyd oddi wrth gig dofednod sydd wedi’i goginio’n dda neu oddi wrth wyau.

 

9. Allaf i gael AI o drin adar gwyllt?

Nid yw’n hysbys fod yr Anwydwst Adarol yn bresennol yn y wlad. Dylai helwyr adar a’r rheini sydd mewn cysylltiad ag adar gwyllt bob amser gymryd rhagofalon glanweithdra priodol wrth drin adar gwyllt.

 

10. Sut fyddem yn ei reoli petai’n dod yma?

Mae cynllun at raid Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gael o’u gwefan.

Fel y mynnir dan ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd, byddai rheoli’r clefyd yn cynnwys lladd adar a heintiwyd a chysylltiadau peryglus, a gosod mesurau rheoli symudiadau o amgylch y lleoedd a heintiwyd. Mae Cyfarwyddeb AI newydd yn cael ei thrafod ar hyn o bryd.

Gellwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar y safleoedd canlynol:-

Llywodraeth Cynulliad Cymru 
Iechyd Anifeiliaid 
Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru



 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0