Cadeirydd
2008/2009: Raymond Bartley, Isaf Dinbych
Mae’r Cadeirydd yn gweithredu fel symbol o awdurdod democrataidd y Cyngor ac yn cynrychioli’r Cyngor mewn rhinwedd anwleidyddol. Bydd y Cadeirydd yn mynd i wahanol ddigwyddiadau fel llysgennad, gan gynrychioli’r Cyngor fel y corff etholedig sy’n cynrychioli pobl Sir Ddinbych.
Caiff y Cadeirydd ei ethol yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Mai, a bydd yn ymgymryd â’r swydd am gyfnod o ddeuddeg mis. Mae dyletswyddau’r Cadeirydd yn cynnwys: cadeirio cyfarfodydd y Cyngor llawn; gweithredu fel cydwybod y Cyngor; bod yn bresennol mewn digwyddiadau dinesig a seremonïol; hyrwyddo ymwneud y cyhoedd yng ngweithgareddau’r Cyngor.
Yn draddodiadol, ac yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) mae’r Cadeirydd yn cael blaenoriaeth yn y sir, yn ddarostyngedig yn unig i Frenhinfraint Ei Mawrhydi.
Is-gadeirydd
2008/2009: Joan Butterfield, Gorllewin y Rhyl
Caiff yr Is-gadeirydd ei ethol yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Mai, a bydd yn ymgymryd â’r swydd am gyfnod o ddeuddeg mis.
Bydd yr Is-gadeirydd yn cyflawni holl swyddogaethau a dyletswyddau’r Cadeirydd pan fo galw arno/arni i ddirprwyo yn absenoldeb y Cadeirydd.

Rhoi adborth ar y tudalen hon