Derbyniodd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd y Cyngor, 18 o geisiadau i ymuno â’r Cabinet, gan bob grŵp gwleidyddol, ac yn dilyn trafodaethau manwl am y penodiadau a’r proffolios gydag Arweinyddion Grwpiau, y Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr Corfforaethol a’r ymgeiswyr eu hunain, mae wedi cyhoeddi’r penodiadau sy’n cydweddu cryfderau a phrofiad ymysg y Cynghorwyr gyda’r portffolios sydd ar gael. Byddant yn caniatáu i ni symud Sir Ddinbych ymlaen a delio â’r prif faterion sydd angen eu trin yn ystod y cyfnod sydd i ddod.
Mae’r Cabinet hwn yn cynnwys y nifer uchaf o Gynghorwyr sy’n ferched – 4 allan o 9 – yn hanes Sir Ddinbych.
Cliciwch ar yr Aelod i weld ei cyfrifoldebau:
| Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Ddysgu Gydol Oes | - | Y Cynghorydd Hugh H Evans |
| Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Plant a Dirprwy Aelod Arweiniol dros Ddysgu Gydol Oes | - | Y Cynghorydd Morfudd Jones |
| Aelod Arweiniol dros Gymunedau | - | Y Cynghorydd Sharon Frobisher |
Aelod Arweiniol dros Adfywio | - | |
Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Datblygiad Cynaliadwy | - | Y Cynghorydd Eryl Williams |
Aelod arweiniol dros Gyllid | - | Y Cynghorydd Julian Thompson Hill |
| Aelod Arweiniol dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles | - | Y Cynghorydd Pauline Dobb |
| Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Gwelliant | - | Y Cynghorydd Paul Marfleet |
| Aelod Arweiniol dros Bersonél a Rheolaeth Busnes | - | Y Cynghorydd Rhiannon Hughes |

Rhoi adborth ar y tudalen hon