Rôl Archwilio
Mae’r tri Pwyllgor Archwilio yn cefnogi gwaith y Cabinet a’r Cyngor fel cyfanwaith. Maent yn caniatáu i’r cyhoedd gael mwy o lais ym materion y Cyngor trwy gynnal ymchwiliadau i faterion sydd o bwys lleol. Mae’r rhain yn arwain at adroddiadau ac argymhellion i gynghori’r Cabinet a’r Cyngor yn ei gyfanrwydd ar ei bolisïau, ei gyllideb ac ar gyflwyno gwasanaethau. Mae’r Pwyllgorau Archwilio hefyd yn adolygu a monitro penderfyniadau’r Cabinet. Mae hyn yn eu galluogi i ystyried a yw’r penderfyniadau yn briodol. Fe allant argymell bod y Cabinet yn ailystyried penderfyniad. Fe all y Cabinet neu’r Cyngor hefyd ymghynghori â Phwyllgorau Archwilio ar benderfyniadau sydd ar y ffordd a byddir yn ymghynghori â hwy ar ddatblygu polisi.
Er mai prif rôl Pwyllgorau Archwilio yw archwilio a goruchwylio gwaith y Cabinet a pholisiau a gwasanaethau’r Cyngor fel cyfanwaith, fe allant hefyd fod â rôl wrth archwilio cyrff cyhoeddus eraill. Disgwylir i’r rôl olaf yma ddod yn ofyniad statudol yn ystod haf 2012.
Dan delerau cyfansoddiad y Cyngor, mae yna dri Pwyllgor Archwilio, ac amlinellir eu meysydd cyfrifoldeb isod:
Pwyllgorau Archwilio
| Materion i’w hystyried gan y Pwyllgor ________________________________ |
| Cymunedau: | craffu ar ddarpariaeth gwasanaeth a datblygiadau sy’n canolbwyntio ar ardaloedd, yn cynnwys:
________________________________ |
| Partneriaethau: | sicrhau fod buddiannau, adnoddau a blaenoriaethau’r Cyngor yn cael eu hadlewyrchu yng ngwaith y partneriaethau sy’n ymwneud â’r Cyngor, yn cynnwys:
________________________________ |
| Perfformiad: | Craffu ar berfformiad y Cyngor a chraffu ar gyflawni ei amcanion, gan gynnwys:
________________________________ |
Mae pob Pwyllgor Archwilio wedi’i ffurfio o 11 Cynghorydd Anweithredol a benodir i adlewyrchu cyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor. Gall pob Pwyllgor Archwilio gyfethol y cyfryw bobl ag sydd i’w penderfynu gan y Pwyllgor Archwilio dan y sylw ond, ac eithrio yr aelodau cyfetholedig statudol ar faterion addysg (sydd â’r hawl i wasanaethu ar bob un o’r pwyllgorau uchod pan drafodir materion addysg) nid oes gan aelodau cyfetholedig hawl i bleidleisio ar unrhyw fater a drafodir.
Cefnogaeth i’r Swyddogaeth Archwilio: caiff gwaith swyddogaeth Archwilio’r Cyngor ei gefnogi’n bennaf gan Gydlynydd Craffu’r Cyngor a’r Rheolwr Gwasanaethu Democrataidd. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Uned Gwasanaethau Democrataidd ar 01824 712554/712589 neu trwy e-bost at: dcc_gweinyddol@sirddinbych.gov.uk

