Gwasanaethau Plant a Theulu
Prif bwrpas Gwasanaeth Plant a Theuluoedd Sir Ddinbych yw gwneud amrediad o ddyletswyddau statudol i blant a'u teuluoedd. Mae'r dyletswyddau yn cynnwys hyrwyddo lles, iechyd a gwarchod plant; felly mae ein gwaith yn cynnwys:
- ymchwilio i gyhuddiadau o gam-drin;
- ymweliadau gwarchod plant;
- cymorth i bobl ifanc sy'n gadael gofal;
- cofnodi a monitro maethu preifat;
- maethu, mabwysiadau a gwasanaethau ar ôl mabwysiadu;
- darparu llety i blant sy'n cael edrych ar eu hol;
- cymryd trefniadau gofal plant a darparu adroddiadau i Lysoedd Teulu;
- recriwtio a chymeradwyo gofalwyr maeth a theuluoedd sy'n mabwysiadau;
- rheoli safonau darpariaeth breswyl, maethu a mabwysiadu;
- safon ac arolwg cynlluniau lleoli a gwarchod plant;
- gwasanaethau i Blant Mewn Angen;
- darparu gwasanaethau cyngor a gwybodaeth i deuluoedd bregus h.y. eu cyfeirio at asiantau eang neu wirfoddol sy'n gallu darparu'r cymorth maent eu hangen;
- gwaith i helpu Plant a Theuluoedd gael adnoddau cymunedol; er enghraifft, Gwasanaethau Ieuenctid, gwasanaethau budd-daliadau etc.
Mae polisi ac amcanion cenedlaethol a lleol yn dylanwadu ar flaenoriaethau a siâp pob gwasanaeth.
Mae amrediad o dimau o fewn Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn sicrhau cyflwyno'r gwasanaethau hyn.
Blaenoriaethau gwelliannau craidd ar gyfer Gwasanaethau Plant a Theulu yw:
- Gwella dewis lleoliad ac ansawdd darpariaeth ar gyfer Plant a ofelir Amdanynt;
- Gwella amseroldeb, nifer ac ansawdd asesiadau rhagarweiniol a chraidd i Blant mewn Angen;
- Cyflwyno gwasanaeth effeithiol, a ddefnyddir yn dda ac sy'n rhwystrol, sy'n lleihau perygl, hybu cynhwysiant cymdeithasol a lleihau nifer y plant y bydd angen gofalu amdanynt gan y Cyngor;
- Parhau i wella ansawdd cynllunio gofal a gwella siawns bywyd i Blant a Ofelir Amdanynt;
- Cyflwyno agwedd gomisiynu tuag at ddatblygu a chyflwyno gwasanaethau gyda threfniadau contractio gwell yn sylfaen;
- Cynnal lefelau cadw staff a datblygu / cynyddu sgiliau staff Gwasanaethau Plant a Theulu Sir Ddinbych i hyrwyddo eu datblygiad yn y dyfodol;
- Gwella cyfathrebu a sut mae'r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd yn gweithio gyda phartneriaid ac o fewn yr adran.
Grantiau Sefydliadau Gwirfoddol
Gweler yr atodiadau isod am wybodaeth ynglyn a ceisiadau am grantiau sefydliadau gwirfoddol.


