Asbestos - yn eich Cartref
Cwestiynau Gofynnir yn Aml
• Pam poeni am asbestos?
• Beth ddylech chi wneud os oes gennych asbestos yn eich cartref?
• Gwaredu asbestos yn ddiogel
• Sut i waredu gwastraff sment asbestos
• Asbestos: Beth i’w Wneud a Pheidio a’i Wneud
Pam Poeni am Asbestos yn y cartref?
Mwyn sy’n bodoli’n naturiol sydd wedi ei wneud o ffibrau bychain iawn yw asbestos. Mae’r mwyn yn cael ei gloddio a’i falu, a’r ffurf ffibrog hwn sydd wedi ei ddefnyddio’n hanesyddol mewn amrediad o ddeunyddiau adeiladu. Yn gyffredin gelwir y rhain yn Ddeunyddiau Cynnwys Asbestos (DCAau) (ACMs). Defnyddir y term DCA oherwydd yn ddieithriad bron maent wedi eu cymysgu â deunyddiau eraill i ffurfio'r cynnyrch gorffenedig.
Os yw eich adeilad yn hŷn nag 20 oed, mae’n bosib ei fod yn cynnwys deunyddiau wnaed o sment asbestos. Nid yw asbestos wedi ei ddefnyddio mewn adeiladau ers 1985, ond defnyddiwyd miloedd o dunelli mewn adeiladau yn y gorffennol. Mae’r rhan fwyaf o’r asbestos hwn yn dal yno ac ni allwch ei adnabod yn hawdd. Os aflonyddir ar DCAau neu os ydynt mewn cyflwr gwael, gallant ryddhau nifer fawr o ffibrau siâp nodwyddau y gellir eu hanadlu i mewn i’r ysgyfaint. Mae’r ffibrau hyn yn aros yn yr ysgyfaint ac yn gallu arwain at nifer o afiechydon, rhai’n angheuol. Mae anhwylderau a achosir gan asbestos yn arwain at 3000 o farwolaethau’r flwyddyn.
Cyn belled â bod y deunydd asbestos yn gyflawn ac mewn lle na ellir ei ddifrodi’n hawdd, ni fydd yn achosi perygl i iechyd.
Rhestrir lleoliadau cyffredin isod, ond gall bod llefydd eraill yn eich cartref - felly os nad ydych yn siŵr, gadewch iddo a mynnu cyngor arbennig.
Lleoliadau cyffredin i asbestos:
- Asbestos ar doeau garejys neu siediau.
- Asbestos ar baneli waliau garejys neu siediau.
- Pibellau draen asbestos.
- Asbestos neu Ynysiad estyll bondo, artecs, paneli neu Asbestos, artecs, paneli mewnlenwad a pharwydydd.
Asbestos ar ymyl paneli baddon. - Os ydych chi’n rhenti eich cartref, efallai bod y wybodaeth berthnasol gan eich landlord.
Anelir y cyngor hwn at ddeiliaid y tŷ. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cynhyrchu nifer o daflenni, sy’n fwy perthnasol i fusnesau.
Be ddylech chi wneud os oes gennych asbestos yn eich cartref?
Os yw’r deunydd asbestos mewn cyflwr da ac nid oes angen ei symud - gadewch iddo fod wedi ei selio! Os oes angen ei waredu, argymhellir eich bod yn cysylltu â chwmni arbenigol i wneud arolwg neu samplu a defnyddio contractwr trwyddedig i gael gwared â’r ynysydd ac estyll asbestos a threfnu i’w waredu.
Os byddwch yn ei adael yn ei le, gellir cymryd y mesurau canlynol: -
- Paentio a selio - preimio’r ddalen asbestos gyda PHAENT PREIMIO GWRTH ALCALI. Gorffennu gyda phaent sglein neu emwlsiwn. Peidiwch a sandio cyn paentio.
- Gorchuddiwch ddalen Asbestos gyda phapur wal neu galedfwrdd wedi ei ludio gan ludydd cryf.
- Seliwch a phaentiwch gyda phaent bitwmen, e.e. Aquaseal neu 'Synthaprufe' neu
- Selio gyda gludydd PVC
D.S. Mae delio gydag asbestos meddal, asbestos mewn astell ynysu (tebyg i fwrdd plastr) neu araen asbestos wedi ei chwistrellu yn waith arbenigol. Mae’r gwaith hwn yn ddarostyngedig i reolaethau ffurfiol a rhaid i gontractwyr trwyddedig ymgymryd â’r gwaith.
Gwaredu Dalen Asbestos (e.e. to garej neu sied rychog)
Gall deiliad y cartref waredu cynnyrch sment asbestos, yn ddarostyngedig i’r rhagofalon canlynol:
- Gweithio mewn awyrgylch wyntyllog dda bob amser, gan wisgo oferôls golchadwy priodol a mygydau llwch addas ar gyfer defnydd asbestos. Peidiwch â defnyddio offer pŵer ac osgowch ei dorri’n ddarnau mân.
- Gwlychwch y deunydd yn drwyadl cyn dechrau’r gwaith. Fe’ch cynghorir i ychwanegu at y dŵr cyfwng gwlychu addas, e.e., hylif golchi, cyn trwytho’r panelau.
- Datglymwch folltau sefydlog (defnyddiwch hylif rhyddhau os yw’r bolltau wedi cyrydu), sgriwiau ayb a symudwch y panelu’n gyflawn, peidiwch â defnyddio offer pŵer.
- Pentyrrwch y dalennau yn yr awyr agored heb eu torri i fyny, eu lapio dwywaith mewn dalennau plastig neu fagiau a’u selio gyda thâp. Dylid socian ac ysgubo (peidiwch â defnyddio sugnydd llwch) darnau bychain i sachau plastig tew ac yna eu selio.
- Archwiliwch yr ardal gan glirio unrhyw falurion gyda llaw - sychwch gyda chlytiau llaith tafladwy. Peidiwch â defnyddio sugnydd llwch, oherwydd bydd hwn yn lledaenu’r llwch o gwmpas.
- Dylid gwneud trefniadau gwaredu fel yr amlinellir isod.
- Golchwch eich dwylo a’ch wyneb ar ôl cwblhau’r gwaith.
Sut mae gwaredu gwastraff asbestos
Gall deiliaid tŷ waredu sment asbestos yn rhad ac am ddim mewn safleoedd mwynder dinesig yn Marsh Road, Rhyl a Tip Lane, Prestatyn. Dyma’r unig safleoedd gwaredu sy’n gallu derbyn dalennau asbestos domestig yn ddi-dâl o fewn y Sir. Pan fyddwch yn cyrraedd y safle, dylech ofyn cyngor un o’r staff ac fe fyddan nhw’n dangos lleoliad y sgipiau asbestos seiliedig i chi. Ni dderbynnir asbestos masnachol na meintiau mawr yn y safleoedd hyn. Os ydych yn ansicr, ffoniwch y safle cyn mynd.
Os ydych fel deiliad y tŷ, yn bwriadu cludo gwastraff sment asbestos yn eich cerbyd, nid oes raid i chi fod yn gludydd cofrestredig, cyn belled â bod eich gwastraff chi yw e. Fodd bynnag, fe ddylech gymryd y camau canlynol i sicrhau nad yw’r asbestos yn llygru eich cerbyd:
- Chwistrellwch ddalennau o sment asbestos gyda dŵr.
- Lapiwch neu bagiwch y sment asbestos ddwywaith gyda pholythen cryf.
- Sicrhewch fod tâp o amgylch y lapio.
- Sicrhewch nad yw deiliaid y cerbyd yn medru cael mynediad i’r gwastraff asbestos.
Asbestos: Gwneud a Pheidio Gwneud
Peidiwch â chael braw os ydych yn meddwl fod asbestos gyda chi yn y cartref - mae’n broblem fel arfer os ydi o’n cael ei aflonyddu.
- Rhaid trin asbestos gyda pharch.
- Peidiwch â defnyddio offer pŵer oherwydd gall hyn aflonyddu deunyddiau sy’n cynnwys asbestos, defnyddiwch dorwyr bollt llaw
- Ceisiwch gyngor os ydych yn meddwl fod gennych broblem gydag asbestos yn eich cartref.


Rhoi adborth ar y tudalen hon