| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Asbestos - Beth yw e?

Beth yw  Asbestos?
Mwyn sy’n bodoli’n naturiol sydd wedi ei wneud o ffibrau bychain iawn yw asbestos.  Mae’r mwyn yn cael ei gloddio a’i falu, a’r ffurf ffibrog hwn sydd wedi ei ddefnyddio’n hanesyddol mewn amrediad o ddeunyddiau adeiladu.  Yn gyffredin gelwir y rhain yn ddeunyddiau Cynnwys Asbestos (DCAau) (ACM's).
Defnyddir y term DCA oherwydd yn ddieithriad bron maent wedi eu cymysgu â deunyddiau eraill i ffurfio’r cynnyrch gorffenedig.


Pam ei fod yn Beryglus?
Os aflonyddir ar DCAau neu os ydyn nhw mewn cyflwr gwael, gallant ryddhau nifer fawr o ffibrau siâp nodwyddau a all gael eu hanadlu i mewn i’r ysgyfaint.  Mae’r ffibrau hyn yn aros yn yr ysgyfaint ac yn medru arwain at nifer o afiechydon, rhai yn angheuol.  Mae anhwylderau a achosir gan asbestos yn arwain at 3000 o farwolaethau’r flwyddyn.


Pwy sydd mewn Perygl?
Mae contractwyr adeiladu, plymwyr, trydanwyr, peintwyr a phapurwyr mewn perygl yn arbennig oherwydd eu bod yn gweithio’n aml ar DCAau, , ac yn eu haflonyddu heb sylweddoli beth ydynt.  Am y rheswm hwn y cyflwynodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) reoliadau penodol oedd angen rheolaeth effeithlon ar asbestos mewn adeiladau annomestig.  (Gellir canfod y ddyletswydd newydd hon yn Rheoliad 4 o Reoliadau Rheoli Asbestos yn y Gwaith 2002.)


Lle mae ei ganfod mewn Adeiladau?
Defnyddiwyd DCAau’n eang mewn deunydd adeiladu rhwng 1945 a 1985.  Mae cyfansymiau mawr o DCAau yn aros mewn adeiladau adeiladwyd neu ailwampiwyd yn ystod y cyfnod hwnnw.  Roedd y rheoliadau gwaharddiad a gyflwynwyd rhwng 1985 a 1999 yn gwahardd yn gynyddol y defnydd o asbestos ac eithrio at ddibenion penodol ac arbenigol iawn.  Rydych yn fwyaf tebygol o ddod ar draws asbestos yn y deunyddiau canlynol:


Chwistrelliad asbestos a phacio rhydd - wedi eu defnyddio’n gyffredin fel diogelwch tân

Ynysydd wedi ei fowldio neu cyn-ffurfiol – wedi ei ddefnyddio fel ynysydd gwres ar gyfer pibellau a boeleri

Astell Ynysu Asbestos (AIB) – wedi ei ddefnyddio’n gyffredin fel diogelwch tân ac ynysydd thermal neu fel paradwydd a dwythellau.

Cynnyrch sment asbestos - yn gyffredin moldiwyd y rhain i ddalennau to rhychog, arwisgoedd, cafnau, pibellau glaw, ffliwau a thanciau dŵr

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0