| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sut mae Sir Ddinbych yn ymateb i argyfwng
Alt Text

Y diffiniad o argyfwng yw digwyddiad neu sefyllfa a allai achosi niwed difrifol i les pobl mewn lle yn Y Deyrnas Unedig, neu i amgylchedd lle yn Y Deyrnas Unedig, neu ryfel neu derfysgaeth a allai achosi niwed difrifol i ddiogelwch Y Deyrnas Unedig.  Er enghraifft, llifogydd Tywyn 1990, llifogydd Llandudno 1993, llifogydd Rhuthun/Yr Wyddgrug 2000, Tân Depo Olew Buncefield 2005, Argyfwng Tanwydd 2000, Bomiau Llundain mis Gorffennaf 2005, Clwy’r Traed a’r Genau 2001
  
Pan fydd digwyddiad felly, mae Sir Ddinbych yn gweithio gydag ymatebwyr fel Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru; Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac Ymddiriedolaeth Ambiwlans Gogledd Cymru.  Mae’r awdurdod hefyd yn defnyddio arbenigedd asiantaethau gwirfoddol, er enghraifft y WRVS a Byddin yr Iachawdwriaeth.  Heddlu Gogledd Cymru sy’n gyfrifol am gydlynu holl weithgareddau ymatebwyr mewn lleoliad argyfwng ac o’i gwmpas yn ystod yr argyfwng hwnnw.
 
Mae’r tasgau penodol y mae’r Cyngor yn eu cyflawni yn ystod argyfwng ac ar ei ôl yn cynnwys:
 

  • Creu canolfan rheoli argyfwng i reoli ymateb y Cyngor
  • Penodi swyddogion cyswllt i weithio gyda’r gwasanaethau argyfwng ac asiantaethau eraill
  • Darparu gwybodaeth wyddonol, beirianyddol a thechnegol
  • Darparu gwasanaethau iechyd yr amgylchedd a/neu reoli plâu
  • Gwneud archwiliadau adeileddol
  • Symud malurion
  • Darparu cludiant i’r rheini sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng
  • Darparu gofal a chymorth i deuluoedd/unigolion sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng
  • Creu canolfannau gorffwys i rai sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi a llety dros dro am dymor hirach, fel bo’r gofyn
  • Cynorthwyo darparu gwybodaeth i’r cyhoedd
  • Creu marwdai dros dro
  • Cychwyn cronfeydd apêl
  • Goruchwylio adfer y gymuned ar ôl y digwyddiad
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0