| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Tîm Gwelliant Corfforaethol
Cyngor Sir Ddinbich,
Neuadd y Sir,
Ffordd Wynnstay,
Rhuthun,
LL15 1YN
Teleffon:
01824 706000
Ffacs:
01824 707446
Ebost
Cynllunio Busnes a Pherfformiad
The Vision Logo

Mae'r dudalen hon yn dangos sut mae Cyngor Sir Ddinbych yn perfformio a beth a wnawn i wella gwasanaethau a rhoi gwerth y pres i bobl leol.

Gweledigaeth i Sir Ddinbych

Rydym wedi datblygu gweledigaeth i Sir Ddinbych fel cynllun canolog i ddylanwadu ac arwain gwaith y Cyngor Sir a'r mudiadau partner.

Cliciwch i ddarllen y Weledigaeth i Sir Ddinbych Mae Strategaeth Gymunedol Sir Ddinbych yn cael ei adolygu i adlewyrchu gweledigaeth Sir Ddinbych. Mae drafft ar gael i ymgynghori hefo mudiadau partner. Mae'r ddogfen yn gynllun lefel uchel sy'n gosod allan sut y cyflawnir gweledigaeth Sir Ddinbych.  

Bwrdd gwasanaeth lleol Sir Ddinbych

Ffurfiwyd bwrdd gwasanaethau lleol Sir Ddinbych ym mis Gorffennaf 2006 ac mae yn fwrdd sy'n cynnwys cynrychiolwyr mudiadau ar draws Sir Ddinbych. Nod y Bwrdd yw gwella safon byw yn Sir Ddinbych yn ôl gweledigaeth y sir. Bydd y Bwrdd yn rhoi gwerth trwy sicrhau bod mudiadau'n gweithio ynghyd i gyrraedd nod cytunedig.

Cynllun Corfforaethol Sir Ddinbych 

Mae’r Cynllun Corfforaethol yn nodi prif flaenoriaethau’r Cyngor am y cyfnod 2009 - 2012, y gweithgareddau y byddwn yn ymgymryd â nhw i’w cyflawni, a sut y byddwn yn mesur ac yn monitro’r llwyddiant.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych