| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Datblygun Cynaliadwy

Datblygn Cynaliadwy

Mae datblygiad cynaliadwy yn golygu cydbwysedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol heddiw i sicrhau cydbwysedd rhyngddyn nhw, mewn ffordd sydd ddim yn negyddol nac yn lleihau. Mae diffiniad o ddatblygiad cynaliadwy wedi'i dderbyn i Sir Ddinbych:

“Mae datblygiad cynaliadwy yn golygu bod angen i faterion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol fod yn elfennau cynhenid ym mhob math o ddatblygiad yn Sir Ddinbych. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cael effaith bositif ar ansawdd bywyd pobl nawr ac yn y dyfodol, gan ddarparu sir ddiogel a sicr i genedlaethau i ddod”

Gall y diffiniad hwn cael ei dorri i lawr fel y canlyn:

  • Dylai trigolion Sir Ddinbych fyw o dan amodau economaidd , amgylcheddol  a chymdeithasol  sy’n cael gwared ar dlodi, yn creu amodau byw derbyniol, yn gwella lles ac yn diogelu iechyd dynol a’r amgylchedd naturiol.
  • Sicrhau y cyfunir datblygu gyda chadwraeth adnoddau naturiol a’r amgylchedd, rheoli ynni, gwastraff a chludiant yn gynaliadwy.
  • Creu cymunedau cynaliadwy lle mae pobl eisiau byw a gweithio, yn awr ac yn y dyfodol.
  • Cyfarfod  â gwahanol anghenion y trigolion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, bod yn sensitif i’w hamgylchedd a chyfrannu tuag at fywyd o ansawdd da.  Sy’n ddiogel a chynhwysol, wedi’i gynllunio’n dda ac yn cynnig cyfle cyfartal a gwasanaethau da i bawb.

Bydd llwyddo i gynnal ffordd o fyw cynaliadwy yn golygu y bydd pawb sy’n byw, gweithio ac ymweld â Sir Ddinbych â chyfraniad.   Bydd gan Sir Ddinbych ran arweiniol mewn addysg a gwybodaeth er mwyn galluogi pawb i gymryd rhan ac ymddwyn yn gyfrifol drwy dalu sylw i’w heffaith ar:

  • Cynhyrchu Gwastraff: Ailgylchu, Compostio, Lleihau Gwastraff
  • Cadwraeth: Ynni Insiwleiddio’r Cartref, Ynni Adnewyddol
  • Cludiant: Dulliau o Drafnidiaeth, Gollyngiadau CO2
  • Lechyd a Lles: Bwyta’n dda, Bod yn fywiog, Peidio ag Ysmygu
  • Bioamrywiaeth: Cefnogi mentrau Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Chynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol
  • Yr Amgylchedd: Ansawdd Amgylchedd Trefol a Naturiol
  • Ffyniant Economaidd Lleol: Amgylchedd o Ansawdd, Cynilion, Prisiau Tai
  • Llygredd: Aer, Dŵr, Sŵn, Ysbwriel
  • Addysg: Ysgolion, Clybiau Eco, Ymwybyddiaeth
  • Diwylliant: Yr Iaith Gymraeg, Treftadaeth

Mae Cynllun datblygiad cynaliadwy 2007 - 2009 yn amlinellu'r camau a gymer y Cyngor Sir i wella ei berfformiad cynaladwyedd a gellir ei ddarllen ar y linc isod. 

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0