Sut alla i gadarnhau a ydw i wedi fy nghofrestru?
Gallwn gadarnhau eich cofrestriad ar y ffôn drwy Linell Gymorth y Gwasanaethau Etholiadol ar 01824 706104. Rhaid i chi roi eich enw a’ch cyfeiriad llawn.
Beth petawn i’n newid fy enw?
Os ydych yn newid eich enw neu’n dymuno newid unrhyw fanylion eraill ar y gofrestr etholiadol, rhaid i chi lenwi ffurlen. Cysylltwch â Swyddfa’r Gwasanaethau Etholiadol am ragor o fanylion neu llawr lwythwch ffurflen yma: PDF
Beth os nad yw fy enw ar y Gofrestr?
Os na allwch ganfod eich enw ar y Gofrestr, neu os ydych newydd symud i’r Sir, gallwch lenwi Ffurflen Cofrestru Etholwr. Mae hon yn gofyn am fanylion eich enw llawn, eich cyfeiriad presennol ac ers pa bryd rydych yn byw yno a’ch hen gyfeiriad. Cofiwch nad yw hon yn ffurflen ar lein. Bydd gofyn i chi argraffu’r ffurflen, ei llenwi a’i hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddfa’r Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun LL15 1YN: PDF
Lle alla i archwilio’r Gofrestr Etholwyr?
Erbyn hyn, dim ond o dan arolygaeth y gellir archwilio’r gofrestr lawn a hynny drwy drefniant o flaen llaw yn Neuadd y Sir, Rhuthun, yn unig. I drefnu apwyntiad, cysylltwch â’r swyddfa ar 01824 706104. Gellir gweld y gofrestr wedi’i golygu mewn llyfrgelloedd lleol.
Rwyf eisoes wedi cofrestru ar gyfer Treth y Cyngor. Oes gen i hawl awtomatig i bleidleisio?
Nac oes. Mae’r rhestr Treth y Cyngor a’r Gofrestr Etholwyr yn hollol ar wahân.
Mae’r Gofrestr Etholwyr yn rhestr o bwy sy’n byw yn yr eiddo. Does dim rhaid i’r sawl sy’n talu Treth y Cyngor ar eiddo fod yn byw yno.
Mae banc neu asiantaeth gredyd wedi dweud nad ydw i ar y Gofrestr. Beth alla i ei wneud?
Gallwch weld a ydych ar y Gofrestr, un ai drwy edych ar y copi cyhoeddus neu drwy gysylltu â’r swyddfa hon.
Os, ar ôl edrych, rydych yn gweld nad ydych ar y Gofrestr, gallwch wneud cais drwy lenwi’r ffurflen sydd ar gael ar y wefan hon. Pan fydd eich enw wedi’i ychwanegu at y Gofrestr bydd raid i ni anfon hysbysiad ffurfiol i ddweud eich bod wedi’ch cynnwys a gallwch anfon copi ohono at yr asiantaeth gredyd.
Os ydych eisoes ar y Gofrestr, gallwn roi tystysgrif i chi o breswyliaeth.
Mae gen i ddau gartref. Lle dylwn i gofrestru i bleidleisio?
Mae’n gyfreithlon cofrestru yn y ddau eiddo cyn belled â’ch bod yn byw yn y ddau mewn gwirionedd.
Os ydych yn dewis cofrestru yn y ddau eiddo dylech gofio ei bod yn drosedd pleidleisio ddwywaith yn yr un etholiad. Er enghraifft, os ydych yn cofrestru eiddo yn Sir Ddinbych ac eiddo mewn Sir arall ac mae etholiadau Awdurdod Lleol yn y ddwy ardal ar yr un diwrnod gallwch bleidleisio yn y ddau etholiad. Fodd bynnag, pe byddech yn pleidleisio yn y ddwy Etholaeth mewn etholiad Seneddol, byddai hynny’n drosedd.
Pam y dylwn i drafferthu Cofrestru?
Mae’n rhaid i bob cartref yn ôl y gyfraith gwblhau a dychwelyd y ffurflen Gofrestru Etholiadol sy’n cael ei hanfon bob blwyddyn rhwng mis Awst a mis Hydref. Gall peidio â gwneud hynny arwain at ddirwy o £1,000.
Cofiwch hefyd na allwch bleidleisio mewn unrhyw etholiad oni bai eich bod wedi’ch cofrestru.
Mae gan asiantaethau credyd hawl i brynu’r Gofrestr Etholwyr Lawn sydd wedyn yn cael ei defnyddio ar gyfer un o’r gwiriadau a wneir pa fyddwch yn gofyn am amrywiaeth eang o drefniadau credyd megis morgeisi, benthyciadau banc, contractau ffonau symudol a chatalogau archebu drwy’r post. Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio gall hyn yn aml iawn arwain at wrthod eich cais am gredyd.
Mae’r llywodraeth yn defnyddio’r Gofrestr Etholwyr i asesu faint o grant y dylid ei roi i Sir Ddinbych. Felly, y mwyaf o bobl sydd ar y rhestr y mwyaf o arian fydd y cyngor yn ei gael i dalu am wasanaethau.
Beth am y rhai 16 a 17 oed?
Dylai unrhyw un 16 / 17 oed a ddaw yn 18 ar neu cyn 30 Tachwedd 2008 edrych a ydynt ar y Gofrestr yn barod ac, os nad ydynt, gwblhau ffurflen. Bydd y bobl ifanc hyn yn 18 cyn y daw’r gofrestr i ben a chyda’r hawl i bleidleisio os byddan nhw’n 18 ar adeg etholiad.
Os ydych yn rhiant i berson 16 neu 17 oed cofiwch eu cynnwys ar y ffurflen flynyddol a ddaw i’ch cartref gan roi eu henwau a’u dyddiad geni.
Pwy sy’n gallu cael at y Gofrestr Etholwyr?
Mae’r Gofrestr Etholwyr yn ddogfen gyhoeddus a gellir ei archwilio yn Neuadd y Sir o dan arolygaeth un o staff y Swyddog Cofrestru Etholiadol. Dim ond ar ffurf papur ac yn ôl trefn cyfeiriadau y gellir gweld y copi cyhoeddus o’r Gofrestr. Gellir gweld y gofrestr wedi’i golygu mewn llyfrgelloedd lleol. Cofiwch mai dim ond cofrestr eu hardal fydd yn y llyfrgelloedd ac nid un am y Sir i gyd. Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cofrestru Etholiadol neu eich lyfrgell leol am ragor o fanylion.
Mae gofyn i’r Cyngor yn ôl y gyfraith ddarparu fersiwn lawn o’r Gofrestr i bleidiau gwleidyddol, asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac asiantaethau credyd. Mae’r dibenion y gall y cyrff hyn ddefnyddio’r wybodaeth ar y Gofrestr ar eu cyfer yn cael ei gyfyngu’n gyfreithiol.
Gall unrhyw berson, elusen neu sefydliad masnachol brynu copi o’r Gofrestr wedi’i Golygu a gellir defnyddio’r wybodaeth ar y rhestr honno at unrhyw ddiben.


Rhoi adborth ar y tudalen hon