Swyddog Canlyniadau
Swyddog Canlyniadau’n swyddog o’r Cyngor sydd wedi’i ph / benodi o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac er ei fod yn cael ei ph / benodi gan y Cyngor, mae swyddogaeth Swyddog Canlyniadau'n bersonol o ran natur ac yn wahanol ac ar wahân i’w d / ddyletswyddau fel gweithiwr i’r cyngor. Mae’r Swyddog Canlyniadau’n gyfrifol am:
- y broses o enwebu’r ymgeiswyr a phartïon gwleidyddol
- darparu a hysbysu gorsafoedd pleidleisio
- penodi Swyddogion Llywyddu a chlercod pleidleisio
- gweinyddu a diogelu’r gorsafoedd pleidleisio yn briodol
- paratoi’r holl bapurau pleidleisio
- y cyfrif ei hunan a datgan y canlyniadau
- cyhoeddi, derbyn a chyfrif y papurau pleidlais bost
- datganiadau treuliau etholiad yr holl ymgeiswyr
- cyflwyno’r cyfrifon terfynol ac,
- adhawlio cyllid o gyrff allanol fel y rhagnodir

Rhoi adborth ar y tudalen hon