Gwasanaeth Cofrestru
Mae'r Gwasanaeth Cofrestru yn delio â Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau.
At hyn, i'ch helpu chi i ddathlu achosion arbennig eraill yn eich bywyd, rydym hefyd yn cynnig Seremonïau Enwi, Seremonïau Adnewyddu Addunedau a Seremonïau Dinasyddiaeth.
Rydym hefyd yn delio gyda cheisiadau am gopïau o dystysgrifau genedigaeth, marwolaeth a phriodas ar gyfer Cofrestriadau a ymgymerwyd yn y Dosbarth. Mae angen y rhain ar gyfer nifer o ddibenion beunyddiol gan gynnwys:
- Gwneud cais am basport
- Ceisio benthyciad myfyrwyr
- Pwrpasau cyflogaeth
- Agor cyfrif banc
- Profi Profiant


