| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Cwestiynau ac atebion ar gofrestru marwolaethau

C  Ble medraf gofrestru marwolaeth?

A  Rhaid cofrestru'r farwolaeth yn y dosbarth cofrestru lle digwyddodd.

Ffoniwch y Swyddfa Gofrestru i wneud apwyntiad.

Os nad oes modd mynychu'r Swyddfa Gofrestru yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth, efallai y bydd modd rhoi manylion y farwolaeth i Gofrestrydd mewn man arall yng Nghymru neu Loegr. Byddant yn anfon y wybodaeth ymlaen i'r Swyddfa Gofrestru lle caiff y farwolaeth ei chofrestru. Yn anffodus, efallai y bydd oedi cyn ellir cynnal yr angladd os cofrestrir marwolaeth yn y modd hwn, gan y bydd y gwaith papur angenrheidiol yn cael ei anfon trwy'r post yn hytrach na'u cyflwyno i'r person sy'n cofrestru.

Os bydd cwest, ni fydd angen i chi fynychu'r Swyddfa Gofrestru i gofrestru'r farwolaeth. Dylech ffonio'r Swyddfa Gofrestru neu'r Crwner am gyngor pellach.

Y rhif ffôn ar gyfer y Crwner yn yr ardal hon yw 01978 357775.

C  Pwy a gaiff gofrestru marwolaeth?

A  Perthynas i'r ymadawedig.

Person a oedd yn bresennol adeg marwolaeth.

Perchennog neu reolwr ysbyty neu gartref preswyl lle bu'r farwolaeth.

Ffoniwch y Swyddfa Gofrestru os ydych eisiau cyngor pellach, os nad ydych yn siŵr pwy ddylai gofrestru.

C  Pa wybodaeth sydd ei hangen arnaf i gofrestru marwolaeth?

A  Fel rheol, bydd angen tystysgrif feddygol a gyflwynwyd gan y Meddyg a oedd yn trin yr ymadawedig.

Os bydd post mortem, ni fydd y Meddyg yn cyflwyno tystysgrif feddygol, ond dylech holi'r Cofrestrydd i sicrhau eu bod wedi cael y gwaith papur angenrheidiol gan y Crwner.

Bydd angen i chi hefyd ddarparu'r wybodaeth ganlynol ynglŷn â'r ymadawedig:

  • Enw llawn a chyfeiriad ac enw cyn priodi os yn briodol
  • Dyddiad a lle marwolaeth
  • Dyddiad a lle genedigaeth
  • Statws priodasol
  • Cyfeiriad arferol
  • Gwaith
  • Os oedd yr ymadawedig yn ddynes briod neu'n weddw – enw llawn, dyddiad geni a swydd ei   gŵr  
  • Os ar gael – cerdyn meddygol GIG neu rif GIG
  • Os oedd yr ymadawedig yn derbyn pensiwn neu fudd-daliadau o gronfeydd cyhoeddus.
    (e.e. Gwasanaeth Sifil neu bensiwn Lluoedd Arfog)

Ffioedd a thystysgrifau

Nid oes ffi am gofrestru marwolaeth.

Bydd y Cofrestrydd yn rhoi i chi (yn rhad ac am ddim):

  • Tystysgrif ar gyfer claddedigaeth neu amlosgi - bydd eich Trefnydd Angladd angen hyn.
  • Tystysgrif (BD8) ar gyfer yr Asiantaeth Fudd-daliadau mewn perthynas ag unrhyw bensiwn gwladol neu fudd-dal yr oedd yr ymadawedig yn eu derbyn.

Medrwch brynu Tystysgrifau Marwolaeth gan y Cofrestrydd ar unrhyw adeg ar ôl cofrestru. Mae'r rhain yn dystysgrifau y byddwch eu hangen wrth ddelio gyda stad yr ymadawedig. Os ydych yn gwneud cais adeg cofrestru bydd pob tystysgrif yn £3.50 - yn union ar ol Cofrestru bydd yn costion £7.00.  Os nad yw yn y Gofrestr gyfredol bydd y ffi yn £9.00.

Mae gwasanaeth Tystysgrif Blaenoriaeth  ar yr un dydd ar gael os byddwch yn ei archebu cyn 11.00a.m.: 



GwasanaethauFfi
£
Tystysgrif a roddir ar yr un dydd (ag eithrio Tystysgrif Hanes Teulu).
Rhaid derbyn ceisiadau cyn 11.00 a.m.

£9.00 achos dystysgrifau +
£17.00 achos Blaen Gwasanaeth

Cyfanswm £26.00 + £1.00 p & p

Gwasanaeth Arferol  £9.00 + £1.00 p&p



 

Ymholiadau profiant?

Cysylltwch â llinell gymorth y Gwasanaeth Profiant ar 0845 302 0900 nu ewch i www.courtservice.gov.uk
 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych