Pwy Sy’n Gallu Ei Hawlio Budd-dâl Tai?
Er mwyn hawlio Budd-dâl Tai mae’n rhaid ichi:
- Fod yn byw yn yr eiddo yr ydych yn hawlio ei fod yn gartref ichi
- Fod yn agored i dalu rhent am yr eiddo
- Fod naill ai â hawl i Ategiad Incwm, Lwfans Ceiswyr Swydd (wedi’i seilio ar Incwm) neu eich bod ag incwm isel
- Fod yn breswyl yn gyson, neu wedi’ch eithrio rhag y gofyn i fod yn breswyl yn gyson - mae hyn yn golygu ei bod yn rhaid ichi fod yn byw fel arfer yn yr eiddo yr ydych yn hawlio ar ei gyfer.
Ni ellwch hawlio ar gyfer eiddo sydd wedi’i osod ar brydles o fwy na 21 mlynedd heblaw am gynlluniau cydranedig neu gydberchenogaeth, neu ble’r ydych chi’n berchen-breswylydd, neu os ydych yn denant mewn eiddo y mae’r Goron yn berchen arno.
Ni fydd pobl gyda dros £16,000 o gynilion yn gymwys fel arfer ar gyfer unrhyw fudd-dâl.


Rhoi adborth ar y tudalen hon