| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gwybodaeth Budd-dâl Tai
Newyddion

A allaf i gael gwybod faint o fudd-dâl y byddaf yn ei gael cyn imi rentu eiddo?

Gellwch wneud cais am swm Llwyfans Tai Lleol efo'r eich safle.

Ni fyddwn yn gallu dweud wrthych faint o Fudd-dâl sydd gennych hawl iddo hyd nes y byddwch wedi gwneud cais llawn a’n bod wedi derbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom ynghylch eich amgylchiadau.

Ceisiadau Ôl-ddyddiedig

Fel arfer nid yw’n bosib ôl-ddyddio cais i cyn y dyddiad y derbyniwn gais. Gwnewch yn sir na fyddwch ar eich colled - gwnewch gais yn syth!

Gostyngiadau pobl nad ydynt yn ddibynynol

Fe all swm gael ei dynnu o’ch Budd-dâl Tai os oes gennych bobl dros 18 oed yn eich cartref. Cliciwch yma am restr o’r gostyngiadau a all fod yn berthnasol.

Taliadau Tai Dewisol

Mae dewisol yn golygu bod y Cyngor yn cael penderfynu ym mha amgylchiadau y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei wneud.  Bwriad y taliad ychwanegol hwn ydi helpu’r bobl hynny sydd ag angen help fwyaf gyda’u costau tai megis rhent a Threth y Cyngor.  Gall y taliad gael ei dalu i bobl sy’n dioddef caledi eithriadol neu sydd ag amgylchiadau eithriadol, ond cyn y gellir caniatáu dyfarniad rhaid i’r canlynol fod yn berthnasol:

  • Rhaid i’r hawlydd fod â hawl i Fudd-dâl Tai a/neu Fudd-dâl Treth y Cyngor.
  • Rhaid iddynt fod ag angen help ychwanegol gyda chostau tai.
  • Rhaid i’r Cyngor fod â digon o arian ar gael i gwrdd â’r gost.

Ni allwn wneud taliad:

  • I gwrdd â thaliadau gwasanaethu.
  • I gwrdd â thaliadau am wasanaethau dwr neu garthffosiaeth.
  • Ar gyfer rhent ble mae’r hawlydd ond yn gymwys ar gyfer Budd-dâl Treth y Cyngor, neu ar gyfer Treth y Cyngor ble mae’r hawlydd ond yn gymwys ar gyfer Budd-dâl Tai.
  • Ble mae Budd-dâl Tai neu Fudd-dâl Treth y Cyngor yn cael ei wrthod neu’i atal.
  • Fel ychwanegiad at daliadau Ad-daliad Ail Oedolyn.
Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0