| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Parcio

Adran Priffyrdd ac Isadeiledd sy'n gyfrifol am ddarparu'r rhan fwyaf o'r meysydd parcio yng nghanol trefi Sir Ddinbych ac ar hyd yr arfordir. Mae ein meysydd parcio'n darparu dros 5,000 o fannau parcio ar hyd a lled y Sir.

Yn Sir Ddinbych, rhannwyd meysydd parcio'n rhai byr-aros a hir-aros. Mae'r meysydd parcio agosaf at y strydoedd siopa'n cael eu darparu ar gyfer byr-aros gyda'r prisiau'n adlewyrchu hyn. Caiff modurwyr sy'n dymuno sydd am aros am gyfnodau hwy eu hannog i ddefnyddio meysydd parcio hir-aros lle mae'r prisiau am aros dros 4 awr yn is. Mae peiriannau tocynnau Talu a Dangos yn holl feysydd parcio. Mae'r peiriannau'n derbyn darnau arian 5c, 10c, 20c, £1 a £2 ond nid ydynt yn rhoi newid.

Mae disgownt arbennig ar gael i ddefnyddwyr maes parcio gorsaf y rheilffordd sy’n prynu tocyn trên yng ngorsaf rheilffordd y Rhyl - mae tocyn trwy’r dydd yn costio £3.50 ac mae’n para hyd ganol nos. Gellir talu yn swyddfa docynnau'r orsaf Rheilffordd neu ar y system talu dros y ffôn.

Parcio talu a Dangos ar y Stryd

Mae parcio Talu a Dangos ar gael ar gyfer ceir ar y Promenad yn y Rhyl. Y darnau ffordd dan sylw yw ochrau gogledd-orllewin Rhodfa'r Gorllewin (rhwng Butterton a'r Stryd Fawr) a Rhodfa'r Dwyrain/Marine Drive (rhwng Rhodfa Fairfield a Splash Point).

Mae'r prisiau'n cael eu dangos ar bob peiriant tocynnau Talu a Dangos.

Bydd y taliadau'n cale eu casgly mewn peiriannau tocynnau 'Talu a Dangos' a osodwyd yn rheolaidd at hyd y darnau ffordd perthnasol.

Bydd cerbydau sy'n dangos bathodyn anabl 'glas' dilys neu ganiatad priodol a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn rhydd o'r taliadau.

Mae caniatad parcio ar gael am y tal priodol i drigolion sy'n byw ar neu'n union ar bwys y darnau ffordd dan sylw ac sydd heb unrhyw gyfleusterau parcio eraill oddi ar y stryd. Dylid gwneud ceisiadau am ganiatad yn ysgrifenedig i'r Rheolwyr Gwasanaethau Parcio, Cyngor Sir Ddinbbych, Blwch Post 273, Rhyl, LL18 9EJ

Rhagor o Wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Swyddfa Barcio ar 01745 839 250

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych