Hafan Ysbwriel Cartref
Rhoddir gwybodaeth yma am gasglu eich gwastraff a chasglu o'ch cist olwyn a beth i'w wneud os colloch gasgliad a chynghorion ar sut i leihau gwastraff .
Er mwyn gweld eich diwrnod casglu cliciwch yma. Nodwch na dim ond gwasanaeth rhannol yw hwn ac mae mwy o gyfeiriadau yn mynd ar y rhestr pob diwrnod. Os yr ydych angen cymorth pellach, ffoniwch ein Canolfan Gwasanaeth Cwsmer ar 01824 706100
Sachau Gwastraff
Os ydych ar y gwasanaeth sachau, rydych yn derbyn cyflenwad o sachau gwastraff. Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio'r rhain i gyd, bydd angen i chi ddarparu rhai eich hunan. Yng ngogledd y Sir, cyflwynir cyflenwad sachau i bob cartref yn y gwanwyn. Yn y de, mae'r sachau'n cael eu gadael ar y diwrnod casglu. Os nad ydych wedi derbyn eich sachau, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid ar canolfangwasanaethcwsmer@sirddinbych.gov.uk neu 01824 706100.
Defnyddiwch eich sachau gwastraff yn gyfrifol os gwelwch yn dda. Peidiwch â'u gorlwytho, a phecynnwch unrhyw ddeunydd miniog neu sy'n hawdd ei dorri - e.e. gwydr - yn ofalus. Ewch â'ch gwastraff gardd i'r ganolfan ailgylchu agosaf (dilynwch y linc isod). Ni fydd gwastraff gardd yn cael ei gasglu gyda'ch sbwriel arferol oni fydd wedi ei gynnwys yn sachau gwyn y Cyngor. Mae'r rhain ar gael o swyddfeydd y Cyngor am bris o 50c yr un.
Gwastraff Masnach
Os ydych yn fusnes ac angen gwasanaethau gwastraff masnachol yna cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.
Ffyrdd heb eu mabwysiadu
Cesglir gwastraff o'r fan lle mae eich eiddo yn cyrraedd y briffordd. Os ydych yn rhannu dreif hefo eiddo arall, darllenwch isod i weld ein polisi.

Rhoi adborth ar y tudalen hon