Mae'r Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn gweithio oddi mewn i Adran Trafnidiaeth ac Isadeiledd Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd yn Swyddfeydd Caledfryn yn Ninbych. Gallwch gael manylion cysylltu trwy ddolenni cyswllt ar y dudalen we hon. .
Hawliau Tramwyr Cyhoeddus yw'r amryfal ffyrdd man sy'n bodoli yn y sir sy'n cynnwys Llwybrau Cyhoeddus, Llwybrau Ceffylau a Chilffyrdd Agored i Holl Draffig sydd, ynghyd a'r rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus, ar gael i'r cyhoedd gerdded. beicio, marchogaeth ac, mewn rhai achosion, yrru cerbydau arnynt, i ymweld a chefn gwlad a'i fwynhau yn ogystal ag ymarfer y corff neu hyd yn oed weithredu fel llwybr tarw defnyddiol i lefydd yn y gymuned leol.
Mae cyrifoldeb y cyngor o ran rheoli'r rhwydwaith hawliau tramwyr cyhoeddus yn rhannu rhwng y prif feysydd yma:
- Gwarchod, cynnal a gwella'r llwybrau
- Y map diffiniol cyfreithiol sy'n cofnodi lleoliad a statws y llwybrau
- Hywyddo'r rhwydwaith llwybrau i hybu mynediad i gefn adloniant ac iechyd
- Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych
Gwarchod, cynnal a gwella'r llwybrau
Mae'n cyfrifoldeb statudol dros yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus hyn yn cynnwys:
- Gosod arwyddion ar lwybrau troed a llwybrau ceffylau lle byddant yn gadael priffyrdd wedi'u metelu
- Cynnal wyneb hawl tramwy i safon briodol i'r diben y denyddiwyd y briffordd yn draddodiadol
- Cynnal pontydd dros gyrsiau afonydd naturiol
- Darparu camfeydd a chlwydi am ddim i dirfeddianwyr fel rhan o'r dyletswyth i gyfrannu at gost cynnal camfeydd a chlwydi deffylau cydnabyddedig
- Cadw llwybrau'n rhydd o'u rhwystro gan isdyfiant naturiol
- Gweinyddu'r gyfraith berthnasol i hawliau tramwy ac, yn arbennig, sicrhau y gall y cyhoedd eu defnyddio.
- Rhoi trwyddedau i dirfeddianwyr wella wyneb llwybrau, a tharfu ar neu gloddio trwy wyneb y llwybr neu osod camfeydd neu glwydi newydd ar draws llwybrau
- Gwneud gorchmynion i ddargyfeilio neu gau hawliau tramwy cyhoeddus dros dro neu am byth

