| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Bws Nos

Rydyn ni’n gofidio’n fawr fod y cynllun cludiant cymunedol Bws Nos wedi ei ohirio ar hyn o bryd. Rydyn ni’n gobeithio ail-lansio’r Bws Nos ar gyfer teithwyr dros 50 yn ardaloedd y Rhyl a Phrestatyn gyn gynted ag sydd bosib.

Yn y cyfamser rydyn ni’n recriwtio “bydis” gwirfoddol newydd i gynorthwyo pobl hŷn i ddefnyddio’r gwasanaeth bws gyda’r nos.

Allech chi dreulio ychydig oriau bob mis i helpu pobl hŷn yn eich cymuned?

Bydd bydis o bob oed yn helpu i sicrhau fod pobl hŷn yn gallu defnyddio’r gwasanaeth. Fel gwirfoddolwr gwerthfawr, fe fyddwch wedi eich yswirio’n llawn ac wedi cael gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth llwyddiannus hwn, neu i wirfoddoli, cysylltwch ag: Adran Cludiant Teithwyr Cyngor Sir Ddinbych Caledfryn Dinbych LL16 3RJ Ffôn: 01824 706968

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych