Beth ydi Ad-daliad Ail Oedolyn?
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer Budd-dâl Treth y Cyngor, mae’n bosib y byddwch yn dal i allu cael help os ydi rhywun sy’n byw gyda chi ar Ategiad Incwm, Lwfans Ceiswyr Swydd (wedi’i seilio ar Incwm) neu ag incwm isel. Ni ellwch fod yn gymwys os ydi’r person arall yn talu rhent i chi, (ee lojwr) neu’n bartner i chi.
Uchafswm yr ad-daliad ydi 25% o’ch bil Treth Cyngor. Bydd y ffigur yma’n gostwng os ydi incwm yr ail berson yn uwch na’r Lwfans Ceiswyr Swydd sylfaenol.
Gellwch ddal i hawlio ad-daliad ail oedolyn os oes mwy nag un person arall yn rhannu eich cartref.
Sut Wyf yn Hawlio Ad-daliad Ail Oedolyn?
Byddwn yn edrych yn awtomatig i weld a ydych yn gymwys pan fyddwch yn gwneud cais am Fudd-dâl Treth y Cyngor. Os ydych yn gymwys ar gyfer y ddau, dim ond un fydd yn cael ei dalu, ond fe wnawn ni gyfrif 'bargen orau' a dyfarnu’r budd-dâl a fydd yn gostwng eich bil fwyaf.

Rhoi adborth ar y tudalen hon