| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
A - Y Manteision

Mae hwn yn ddisgrifiad cryno o’r budd-daliadau, pensiynau a chredydau treth mwyaf cyffredin. Mae’r drefn nawdd cymdeithasol a chredydau treth yn gymhleth ac yn gallu newid, felly cysylltwch os gwelwch yn dda efo’r llinell gymorth hawliau lles os byddwch angen gwybodaeth a chyngor, ar 0800 169 6625 ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng  10am a 4pm. Fydd dim angen talu am ffonio’r rhif hwn.

A
 
B
  
Budd-dāl Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  
Beth ydi hwn? Budd-dāl i bobl sy’n anabl oherwydd damwain yn y gwaith neu afiechyd a achoswyd gan eu swydd. 
  
Faint ydi hwn? 
  
Bydd faint o fudd-dāl a gewch bob wythnos yn dibynnu ar asesiad meddyg o’ch anabledd. Y gyfradd isaf y gallwch ei chael ydi £29.16 yr wythnos, a’r gyfradd uchaf ydi £145.80 yr wythnos.
  
Os byddwch eisiau hawlio Budd-dāl Anabledd Anafiadau Diwydiannol, gofynnwch a gwelwch yn dda am ffurflen B195.
  
  
Budd-dāl Analluogrwydd  
  
Beth ydi hwn?
  
Budd-dāl i bobl sydd ddim yn gallu gweithio oherwydd salwch tymor hir. Rhaid i chi fod wedi talu rywfaint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol neu fod wedi mynd yn wael cyn i chi gyrraedd oed gweithio. 
  
Faint ydi hwn?
  
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich oed, faint o amser y byddwch yn methu ā gweithio ac a ydych eisiau hawlio Budd-dāl Analluogrwydd ar gyfer eich gŵr, gwraig neu bartner ar yr un pryd. 
  
Os byddwch eisiau hawlio Budd-dāl Analluogrwydd, ffoniwch eich Canolfan Byd Gwaith lleol. 
  
Budd-daliadau Gweddw – ewch i Budd-daliadau Profedigaeth
  
Budd-daliadau Iechyd
  
Bydd gofal iechyd ar gael yn ddi-dāl oddi wrth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Os ydych yn byw yng Nghymru, does dim rhaid i chi dalu am bresgripsiwn. 
  
Cysylltwch efo ni am fwy o wybodaeth. 
  
Budd-daliadau Mamolaeth a Thadolaeth 
  
Beth ydi rhain?
  
Mae gwahanol fathau o fudd-daliadau neu daliadau, fel Tāl Mamolaeth Statudol, Tāl Tadolaeth Statudol, Tāl Mabwysiadu Statudol, Lwfans Mamolaeth a chredydau treth. Bydd pob un o’r rhain yn cael ei dalu am gyfnod penodol o amser. Bydd rhai’n cael eu talu gan eich cyflogwr, eraill gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. 
  
Faint ydi’r
  
  
Mae’r budd-daliadau hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Ffoniwch ni am fwy o budd-daliadau hyn?   wybodaeth.  
  
Fel arfer, byddwch yn cael y budd-daliadau hyn trwy eich cyflogwr.
  
Budd-dāl Methedig – ewch i Budd-dāl Analluogrwydd
  
Budd-dāl Plant
  
Beth ydi hwn? Budd-dāl i bobl efo plant.
  
Faint ydi hwn? £20.30 yr wythnos i’ch plentyn cyntaf £13.40 yr wythnos i bob un o’ch plant eraill
  
Os byddwch eisiau hawlio Budd-dāl Plant, gofynnwch i ni am ffurflen CH2 os gwelwch yn dda.
  
Budd-daliadau Profedigaeth
  
Beth ydi rhain? Budd-daliadau nawdd cymdeithasol i bobl mae eu gŵr, gwraig neu bartner sifil wedi marw. Daeth Budd-daliadau Profedigaeth i gymryd lle Budd-dāl Gweddw yn 2001. 
  
Faint ydi rhain?

Taliad Profedigaeth (taliad unwaith yn unig, yn rhydd o dreth)  £2000           
Lwfans Rhiant Gweddw  £97.65 yr wythnos (cyfradd sylfaenol)
Lwfans Profedigaeth        £29.30 i £90.81 yr wythnos         
(yn dibynnu ar eich oed) 
  
Os byddwch eisiau hawlio budd-daliadau profedigaeth, gofynnwch i ni am ffurflen BB1 os gwelwch yn dda. 
  
Budd-dāl Salwch – ewch i Budd-dāl Analluogrwydd
  
Budd-dāl Tai
  
Beth ydi hwn? Budd-dāl i bobl ar incwm isel sy’n gorfod talu rhent (nid morgais).
  
Faint ydi hwn? Bydd faint o Fudd-dāl Tai a gewch yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion. Fel arfer bydd pobl sy’n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith wedi’i seilio ar incwm neu Gredyd Pensiwn  (Credyd Gwarant) yn cael Budd-dāl Tai yn llawn. 
  
Os byddwch eisiau hawlio Budd-dāl Tai, cysylltwch os gwelwch yn dda efo adran Budd-dāl Tai Cyngor Sir Ddinbych ar 01824 706312 (Gogledd) neu 01824 706302 (De).
  
  
Budd-daliadau Tadolaeth – ewch i Budd-daliadau Mamolaeth a Thadolaeth
  
Budd-dāl Treth y Cyngor

  
Beth ydi hwn?
  
Budd-dāl sy’n cael ei dalu i bobl ar incwm isel sy’n gorfod talu Treth y Cyngor.

Faint ydi hwn? 
  
Bydd faint o Fudd-dāl Treth y Cyngor a gewch yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion. Fel arfer bydd pobl sy’n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith wedi’i seilio ar incwm neu Gredyd Pensiwn  (Credyd Gwarant) yn cael Budd-dāl Treth y Cyngor yn llawn. 
  
Os byddwch eisiau hawlio Budd-dāl Treth y Cyngor, cysylltwch os gwelwch yn dda efo Cyngor Sir Ddinbych ar 01824 706312 (Gogledd) neu 01824 706302 (De).
  
C
  
  
Credyd Pensiwn
  
Beth ydi hwn?
  
Enw newydd ar gyfer Cymhorthdal Incwm i bobl dros 60 oed.  Gall pobl dros 65 hefyd gael Credyd Cynilion, sy’n fath gwahanol o Gredyd Pensiwn i bobl mae ganddynt gynilion neu sydd wedi talu i mewn i gynllun pensiwn. 
  
Faint ydi hwn? Bydd faint o Gredyd Pensiwn a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau, er enghraifft, eich incwm. 
  
Os byddwch eisiau hawlio Credyd Pensiwn, ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn.
  
Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm yn barod ddylai ddim bod angen i chi wneud cais newydd am Gredyd Pensiwn, dylech ei gael yn awtomatig. 
  
Credyd Teulu – ewch i Credydau Treth
  
Credydau Treth
  
Beth ydi rhain?
  
Dechreuodd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar y drefn credydau treth yn Ebrill 2003, i gymryd lle Credyd Treth Teuluoedd sy’n Gweithio, Credyd Treth Person Anabl, rhai rhannau o Gymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith wedi’i seilio ar incwm a Chredyd Teulu. 
  
Mae’r ddau gredyd treth fel a ganlyn.
  
1 Credyd Treth Plant – ar gyfer teuluoedd efo incwm isel neu ganolig sydd ā chyfrifoldeb ar gyfer o leiaf un plentyn. 
2 Credyd Treth Gwaith – taliad wedi’i seilio ar incwm ar gyfer oedolion sy’n gweithio ac ar incwm isel.
  
Faint ydi hwn? Bydd faint a gewch yn dibynnu ar eich incwm. Mae credydau treth yn cael eu cyfrif yn ōl eich incwm bob blwyddyn, ac yn cael eu talu unwaith y mis. 
  
Os byddwch eisiau hawlio credydau treth, gofynnwch i ni am ffurflen TC600 os gwelwch yn dda, neu ffoniwch Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
  
Credyd Treth i Bobl Anabl – ewch i Credydau Treth
  
Credyd Treth Plant
  
Beth ydi hwn? Budd-dāl i deuluoedd efo plant. Mae Credyd Treth Plant yn cael ei dalu gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac mae’n cymryd lle’r budd-daliadau oedd yn cael eu rhoi fel rhan o Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Credydau Treth Teuluoedd sy’n Gweithio a Chredyd Treth Person Anabl.
  
Faint ydi hwn? Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar faint fyddwch yn ei ennill ac a oes gennych hawl i un neu fwy o’r elfennau a ganlyn. 
  
£2300.00 y flwyddyn (elfen plentyn – ar gyfer pob plentyn)
£2715.00 y flwyddyn (elfen plentyn anabl – ar gyfer pob plentyn)
£1095.00 y flwyddyn (elfen plentyn efo anabledd difrifol – ar gyfer pob plentyn) 
£545 y flwyddyn (elfen teulu) 
£545 y flwyddyn (ychwanegiad baban – ar gyfer plentyn hyd at un flwydd oed)
  
Os byddwch eisiau hawlio Credyd Treth Plentyn, gofynnwch i ni am ffurflen TC600 os gwelwch yn dda. 
  
Credyd Treth Teuluoedd sy’n Gweithio – ewch i Credydau Treth
  
Cymhorthdal Incwm
  
Beth ydi hwn? Budd-dāl i bobl ar incwm isel. Bydd faint o Gymhorthdal Incwm a gewch yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion. Mae’n cael ei dalu gan y Llywodraeth er mwyn  ‘llenwi bwlch’ yn eich incwm.
  
Faint ydi hwn? Ffoniwch ni i gael gwybodaeth.
  
Os byddwch eisiau hawlio Cymhorthdal Incwm a’ch bod o dan 60 oed, ffoniwch eich Canolfan Byd Gwaith lleol. Os ydych dros 60, ewch i ‘Credyd Pensiwn’.
  
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  
Bydd rhai budd-daliadau’n dibynnu ar faint fyddwch wedi’i dalu mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu talu’n bennaf o’ch cyflog os ydych wedi’ch cyflogi neu’n hunan gyflogedig, ond gallwch hefyd wneud cyfraniadau gwirfoddol. 
  
D
  
E
  
F

G
  
Grant Gofal Cymdeithasol – ewch i’r  Gronfa Gymdeithasol
  
Y Gronfa Gymdeithasol
Mae dwy ran i’r Gronfa Gymdeithasol – y Gronfa Gymdeithasol Reoledig a’r Gronfa Gymdeithasol Ddewisol. 
  
Beth ydi hwn? Bydd y Gronfa Gymdeithasol Reoledig yn darparu Grantiau Mamolaeth, Taliadau Angladd, Taliadau Tywydd Oer a Thaliadau Tanwydd Gaeaf. Gall y Gronfa Gymdeithasol Ddewisol ddarparu Grantiau Gofal Cymunedol, Benthyciadau Cyllidebu a Benthyciadau Argyfwng.  
  
Faint ydi hwn? Does dim swm penodol. Bydd taliadau o’r Gronfa Gymdeithasol yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
  
Os byddwch eisiau gwneud cais i’r Gronfa Gymdeithasol Ddewisol, gofynnwch i ni os gwelwch yn dda am un o’r ffurflenni a ganlyn 

Ffurflen Grant Gofal Cymunedol SF300
Ffurflen Grant Benthyciad Cyllidebu SF500
Ffurflen Benthyciad Argyfwng  SF401
  
Os byddwch eisiau gwneud cais i’r Gronfa Gymdeithasol Reoledig, gofynnwch i ni os gwelwch yn dda am un o’r ffurflenni a ganlyn 
Ffurflen Grant Mamolaeth SF100
Ffurflen Taliad Angladd  SF200
  
Bydd Taliadau Tywydd Oer a Thaliadau Tanwydd Gaeaf yn cael eu talu’n awtomatig i chi gan y Llywodraeth.   
  
Gwarant Isafswm Incwm – ewch i Credyd Pensiwn
  
H
  
I
  
J
  
K
  
L
  
Lwfans Anabledd Difrifol
  
Does dim modd hawlio Lwfans Anabledd Difrifol erbyn hyn.
  
Beth ydi hwn? Budd-dāl i bobl nad ydynt yn gallu gweithio ac sydd heb dalu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol i fod yn gymwys ar gyfer Budd-dāl Analluogrwydd. Mae pobl oedd yn cael Lwfans Anabledd Difrifol cyn Ebrill 2001 yn parhau i’w gael os ydynt yn parhau i fod yn methu ā gweithio. 
  
Faint ydi hwn? £53.65 yr wythnos 
  
Lwfans Byw i’r Anabl
  
Beth ydi hwn?  Mae Lwfans Byw i’r Anabl yn fudd-dāl i bobl efo anabledd sydd o dan 65 oed a chanddynt anghenion symudedd neu anghenion gofal. Nid ydi hwn yn dibynnu ar eich incwm nac ar eich cynilion.  
  
Faint ydi hwn? Rhan Symudedd              Cyfradd isel  £18.95 yr wythnos
Cyfradd uchel £49.85 yr wythnos
  
Rhan Gofal               Cyfradd isel  £18.95 yr wythnos
                               Cyfradd ganolig £47.80 yr wythnos
                               Cyfradd uchel £71.40 yr wythnos
  
Os byddwch eisiau hawlio Lwfans Byw i’r Anabl, gofynnwch i ni am ffurflen DLA1 os gwelwch yn dda. 
  
Os byddwch yn cael Lwfans Byw i’r Anabl, efallai byddwch yn gallu cael Cymhorthdal Incwm, Budd-dāl Tai a Budd-dāl Treth y Cyngor. Os ydych yn cael Lwfans Byw i’r Anabl yn barod a’ch bod yn credu y gallai fod gennych hawl i gyfradd uwch, gofynnwch i ni am gyngor cyn hawlio eto. 
  
Lwfans Ceisio Gwaith  (byddai hwn yn cael ei alw’n Fudd-dāl Diweithdra)
  
Beth ydi hwn? Budd-dāl i bobl sy’n ddi-waith (neu’n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos ond yn chwilio am waith llawn amser). Mae dau fath o Lwfans Ceisio Gwaith. Bydd un yn dibynnu ar faint rydych wedi’i dalu mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, a’r llall yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion.   
  
Faint ydi hwn? £65.45 yr wythnos i bobl dros 25 oed sydd wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm.

£51.85 yr wythnos i bobl o dan 25 oed.  
  
Os byddwch eisiau hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, ffoniwch eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol, neu ewch yno. 
  
Lwfans Gofalwyr 
  
Beth ydi hwn? Budd-dāl i bobl sy’n gofalu am rywun sy’n cael Lwfans Gweini neu Lwfans Byw i’r Anabl, y gydran gofal ar y raddfa ganolig neu raddfa uwch. 
  
Faint ydi hwn? £53.90 yr wythnos
 
Os byddwch eisiau hawlio Lwfans Gofalwyr, gofynnwch i ni am ffurflen DS700 os gwelwch yn dda. 
  
Gall hawlio Lwfans Gofalwyr effeithio ar fudd-daliadau’r person rydych yn gofalu amdanynt. Gofynnwch i ni am gyngor cyn i chi hawlio.  
  
Lwfans Gofal i’r Methedig – ewch i Lwfans Gofalwyr
  
Lwfans Gwarcheidwad

  
Beth ydi hwn? Budd-dāl i bobl sy’n gofalu am blant amddifad.
  
Faint ydi hwn? £14.30 yr wythnos ar gyfer pob plentyn.
  
Os byddwch eisiau hawlio Lwfans Gwarcheidwad, gofynnwch i ni am ffurflen BG1 os gwelwch yn dda. 
  
Lwfans Gweini
  
Beth ydi hwn? Budd-dāl nawdd cymdeithasol i bobl 65 oed neu hŷn sydd efo anghenion gofal, er enghraifft bod arnynt angen cymorth i gael bath. 
  
Faint ydi hwn? £47.80 yr wythnos 
(y gyfradd is – os byddwch angen cymorth yn ystod y dydd neu yn y nos)
£71.40 yr wythnos
(y gyfradd uwch – os byddwch angen cymorth yn ystod y dydd ac yn y nos) 
  
Os byddwch eisiau hawlio Lwfans Gweni, gofynnwch i ni am ffurflen DS2 os gwelwch yn dda. 
  
Lwfans Gweithio i’r Anabl – ewch i Credydau Treth
  
Lwfans Symudedd – ewch i Lwfans Byw i’r Anabl
  
M
  
N
  
O
  
P
  
Pensiwn y Wladwriaeth
  
Beth ydi hwn? Taliadau i bobl oed ymddeol sydd wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod cyfnodau o’u bywyd gweithio.
  
Faint ydi hwn? £97.65 yr wythnos (hwn ydi’r swm sylfaenol i rywun sydd wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol)
  
Os byddwch eisiau hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch angen ffurflen BR19 (fel arfer bydd hon yn cael ei gyrru atoch gan y Gwasanaeth Pensiwn tua phedwar mis cyn i chi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth). 
  
Pensiwn Ymddeol – ewch i Pensiwn y Wladwriaeth
  
Q
  
R

Rhif Yswiriant Gwladol   
  
Yn ōl y gyfraith, rhaid i chi fod ā rhif Yswiriant Gwladol os byddwch eisiau hawlio unrhyw fudd-daliadau. Hyd nes bydd gennych rif Yswiriant Gwladol, fyddwch chi ddim yn cael budd-daliadau. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl sy’n dod o wledydd tramor ac efallai ā hawl i fudd-daliadau (er enghraifft, ffoaduriaid). 
  
S
  
T
  
Taliadau Angladd – ewch i’r Gronfa Gymdeithasol
  
Tāl Mamolaeth Statudol a Thāl Tadolaeth Statudol - ewch i Budd-daliadau Mamolaeth a Thadolaeth
  
Tāl Salwch Statudol
  
Beth ydi hwn? Budd-dāl i bobl ar gyflog na allant weithio oherwydd salwch. Bydd yn cael ei dalu am hyd at 28 wythnos. Fydd hwn ddim yn cael ei dalu i bobl ddi-waith na rhai hunan gyflogedig. Bydd yn cael ei dalu trwy eich cyflogwr. 
  
Faint ydi hwn? £79.15 yr wythnos. (Efallai y gallwch gael mwy o arian oddi wrth eich cyflogwr os ydi tal salwch wedi’i gynnwys yn eich cytundeb gwaith.) 
  
Os byddwch eisiau hawlio Tāl Salwch Statudol, rhaid i chi siarad efo’ch cyflogwr. 
  
Taliadau Tanwydd Gaeaf – ewch i’r Gronfa Gymdeithasol
  
Taliadau Tywydd Oer
  
Beth ydi hwn? Taliad sy’n cael ei wneud gan y Llywodraeth (i bobl sy’n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith wedi’i selio ar incwm neu Gredyd Pensiwn) pan fydd y tymheredd wedi’i gofnodi neu ei ragweld i fod o dan 0° canradd mewn gorsaf dywydd benodol yn eich ardal chi.
  
Faint ydi hwn? £8.50 yr wythnos yn ystod y cyfnod o dywydd oer.
  
Does dim angen i chi hawlio Taliadau Tywydd Oer. Byddant yn cael eu talu’n awtomatig gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.    
  
U
  
V
  
W
  
X
  
Y

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych