Newyddion Archifdy
- Daeth Ysgol Heulfre Dinbych yn ail ym Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig am ei phrosiect ar dref Dinbych, ar ol ymweld ag Archifdy Sir Ddinbych a defnyddio gwybodaeth o’r archifau gan gynnwys y cyfrifiad, mapiau, cyfarwyddiaduron, ffotograffau a deunydd archifol gwreiddiol. Aeth dau o’r digyblion i Abertawe i gasglu y wobr o £1,000 sydd wedi ei defnyddio ar gyfer offer ymarfer corff yn yr ysgol. Roedd y plant wrth eu bodd ar eu hymweliad â Pizza Hut a’r parc yn Llanelwy hefyd. Gellir gweld y gwaith mewn arddangosfa yn Llyfrgell Dinbych hyd diwedd Awst ac wedyn yn yr un lle dros Benwythnos Treftadaeth Agored ar 20 a 21 Medi.
- SĒL - Mae rhai o gyhoeddiadau yr Archifdy wedi eu gostwng mewn pris ar hyn o bryd. Dilynwch y cysylltiad 'Cyhoeddiadau' am fwy o fanylion.
- Mae'r staff yn awyddus i atgoffa defnyddwyr yr Archifdy bod mynediad am ddim ar gael i ymwelwyr i wefan hel achau defnyddiol iawn sef www.ancestry.com, diolch i grant oddi wrth CyMAL. Mae tri chyfrifiadur ar gael i ddefnydd cyhoeddus a bydd staff yn barod ac yn awyddus i'w ddangos i unrhywun sydd yn ansicr ble i ddechrau.
- Wedi rhedeg yn erbyn wal brics yn eich ymchwil hanes teulu? Os oes gennych diddordeb mewn mynychu clinig hel achau ar Ddydd Sadwrn yn yr Archifdy rhowch caniad ffon i ni ar 01824 708250 i gofrestru, er mwyn i ni fedru cysylltu gyda chi gyda manylion dyddiad ac amser.

Rhoi adborth ar y tudalen hon