Miloedd o enwau personol
Mae Archifdy Sir Ddinbych yn gwerthu am gost gostyngol CRD ROM sydd yn rhestru cynnwys rholiau Llys Chwarter Sir Ddinbych rhwng 1706 a 1800.
Mae rholiau Llys Chwarter yn y ddeunawfed ganrif yn cynnwys gwybodaeth unigryw ar droseddau a throseddwyr; tramgwyddau a chosbau; y gyfraith a threfn; carchardai a chywirdai; ffyrdd; pontydd; tlodi a chrwydreiaeth; gwallgofion; marchnadoedd a ffeiriau; pwysau a mesurau; tafarndai; anghydffurfwyr a Chatholigion ac yn cynnwys miloedd o enwau personol.
Fel mae’r enw yn awgrymu roedd y Llys Chwarter yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn ac fe’i fynychid gan ynadon heddwch; swyddogion fel y Siryf, Uchel Gwnstabl a’r Crwner; rhydd-ddeiliaid oedd yn aelodau o’r rheithgorau; cwnstablau; achwynyddion; tystion a diffynyddion; pobl wedi eu dal ar gyhuddiad; ynghŷd â cheidwaid carchar y Sir a’r cyweirdai, ymysg eraill. Gwnaed y rholiau gyda’r cofnodion ysgrifenedig a gymerwyd ym mhob cyfarfod o’r Llys. Maent yn taflu goleuni ar agweddau diddorol o fywyd dydd i ddydd, yn cynnwys rhai o’i nodweddion llai deniadol ac maent yn gymhellol i ddarllen.
Mae miloedd o enwau wedi eu cynnwys yn y dogfennau, yn aml gyda chyfeiriadau, galwedigaethau a pherthynas wedi eu disgrifio a bydd hyn yn ddefnyddiol iawn i haneswyr teulu, yn enwedig y rhai sydd y chwilio am gyndeidiau oedd yn swyddogion plwyf, yn derbyn elusen y plwyf, neu mewn trafferth gyda’r gyfraith!
Mae’r CD Rom yn cynnwys lluniau; rhagarweiniad; geiriadur termau; rhestr o enwau personol, a’r rhestr cynnwys ei hun sydd yn rhifo dros 360 o rholiau. Mae'n costio £7.50 a 75p costau post. Gellir ei brynu o'r Archifdy neu drwy'r post. Dylir anfon sieciau at Archifdy Sir Ddinbych, Carchar Rhuthun, Heol Clwyd, Rhuthun LL15 1HP yn daladwy i Gyngor Sir Ddinbych.


Rhoi adborth ar y tudalen hon